Cafodd Billy ei ddewis o blith nifer o eifr
|
Mae gafr newydd y Gatrawd Gymreig wedi cael ei dewis o blith praidd sy'n byw ar Y Gogarth yn Llandudno. Bydd yr afr yn ymuno â'r Gatrawd Gymreig - gan barhau â thraddodiad sy'n dyddio nôl 200 o flynyddoedd. Dywedodd y Lefftenant Gyrnol Nick Lock bod yr afr yn aelod llawn o'r gatrawd, a bod angen iddi fod "yn dawel o dan bwysau" er mwyn gallu perfformio dyletswyddau seremonïol. Fe ymddeolodd yr afr ddiwethaf, Billy - neu William Windsor - fis yn ôl wedi gyrfa filwrol o wyth mlynedd. Yn ôl y Lefftenant Gyrnol Lock nid mascot yn unig yw'r afr. "Mae'n aelod o'r bataliwn, ac yn yr hen ddyddiau, pan oedd yr aelodaeth yn fil o filwyr, mewn gwirionedd 999 ydoedd yn ogystal â'r afr," meddai. 'Synnau' "Roedd yr un sydd newydd ymddeol yn Is-gorporal," meddai.
Fe fydd y milwyr yn hyfforddi Billy dros y misoedd nesaf
|
Mae pob gafr yn derbyn yr enw William Windsor, neu Billy. Ond mae'r broses o ddewis gafr yn un gymhleth i'r milwyr. Bu'n rhaid i grŵp o filwyr gan gynnwys Is-gorporal Ryan Arthur a fydd yn gofalu am Billy deithio o Gaer yn oriau mân y bore i gasglu'r geifr. Cafodd gafr ei dewis o blith grŵp ohonyn nhw, ond ail ddewis y milwyr oedd yr un gafodd ei dewis, oherwydd bod eu ffefryn yn rhy ifanc. Fe fydd Billy yn cael ei hyfforddi yn Gaer dros y misoedd nesaf, ac fe fydd yn dysgu am ddisgwyliadau'r milwyr. Yn rhan o'r swydd, fe fydd Billy yn cael dwy sigaret bob dydd, oherwydd bod tybaco yn dda i'w gôt, ac fe fydd yn cael yfed Guinness "i gadw ei lefel haearn yn uchel". Cafodd y Gatrawd afr am y tro cyntaf yn ystod Rhyfel Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, pan grwydrodd afr i faes y gad. Daeth yr afr yn fascot i'r gatrawd o hynny ymlaen. Derbyniodd y gatrawd afr gan y Frenhines Victoria ym 1884 o'i phraidd ei hun, ac mae'r traddodiad wedi parhau.
|