British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009, 11:48 GMT 12:48 UK
280 o swyddi'n diflannu

Hufenfa
Bydd 279 o bobl yn colli eu swyddi

Mae gweinyddwyr ar ran cwmni Ffermwyr Llaeth Prydain wedi dweud bod eu hufenfa ym Mhen-y-bont yn cau ddydd Gwener.

Bydd 279 o bobl yn colli eu swyddi.

Mae PricewaterhouseCoopers wedi bod yn chwilio am brynwr newydd i'r ffatri ers i'r cwmni gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr wythnos yn ôl.

Dydd Iau cyhoeddodd Milk Link eu bod wedi prynu ffatri gaws y cwmni yn Llandyrnog, Sir Ddinbych.

Roedd y safle ym Mhen-y-bont yn prosesu 200 miliwn litr o laeth bob blwyddyn a'r llaeth yn dod o ffermydd de Cymru.

Yn y cyfamser, mae trafodaethau am ddyfodol canolfannau eraill y cwmni yng Nghastell-nedd, Caerdydd a Glyn Ebwy yn parhau.

'Colledion sylweddol'

Dywedodd un o'r gweinyddwyr, Stephen Oldfield: "Ar ôl i ni gael ein penodi, y nod oedd 'cadw'r olwynion i droi' tra bod penderfyniadau am ddyfodol y busnes yn cael eu gwneud.

"Y nod nesaf oedd gofyn i gwsmeriaid gefnogi'r busnes drwy barhau i archebu a chynnig pris teg am laeth.

"Yn anffodus, mae colli rhai cwsmeriaid allweddol ers cael ein penodi yn golygu bod y busnes ym Mhen-y-bont wedi gwneud colledion sylweddol."

Mae cwmni ariannol PricewaterhouseCooper wedi cyfarfod â chynrychiolwyr yr undebau ddydd Gwener i egluro'r sefyllfa.

'Tipyn o bryder'

Dywedodd Mr Oldfield: "Wrth gwrs, mae tipyn o bryder oherwydd nifer y swyddi sydd wedi cael eu colli ond roedd y colledion cyson a diffyg prynnwr yn gwneud y penderfyniad i gau yn un anochel.

"Mae'r gweithwyr wedi cael gwybod ac rwy'n diolch iddyn nhw am barhau i weithio i'r cwmni er gwaetha'r nifer o gwsmeriaid sydd wedi gadael y cwmni yn ystod yr wythnos.

"Roedden nhw'n broffesiynol hyd y diwedd ac maen nhw wedi cytuno i fy helpu i gau'r safle."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ffatri gaws: Taro bargen
11 Meh 09 |  Newyddion
Perygl i gannoedd o swyddi llaeth
04 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific