British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009, 07:57 GMT 08:57 UK
Rhybudd am beryglon

Canolfan Hafod Eryri
Mae'r ganolfan ymwelwyr yn siwr o ddennu miloedd dros y misoedd nesaf

Ar ddiwrnod agoriad swyddogol Hafod Eryri mae 'na rybudd amserol iawn gan griw achub yr awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn.

Maen nhw'n rhybuddio am beryglon mentro i gerdded yn Eryri heb fod wedi paratoi yn drylwyr ymlaen llaw.

Yn ôl yr awyrlu bu cynnydd o 53% yn y nifer o bobl sydd wedi gorfod cael eu hachub o fynyddoedd Eryri eleni o'i gymharu â'r llynedd.

Maen nhw'n dweud bod rhaid i gerddwyr a dringwyr wisgo'r dillad cywir a chario offer addas.

Maen nhw'n gobeithio na fydd canolfan newydd Hafod Eryri yn arwain mwy a mwy o bobl i wynebu trafferthion ar y mynydd.

Yn flynyddol mae cannoedd o filoedd o bobl yn cyrraedd y copa bob blwyddyn.

Er y rhybuddion dydi'r awyrlu ddim eisiau i bobl beidio mentro i'r copa.

Tywydd yn newid

Mae cyn-warden Parc Cenedlaethol Eryri am dros 30 mlynedd, John Elis Roberts, yn cytuno gyda rhybudd yr awyrlu.

"Mae 'na chwech o lwybrau i fyny i gopa'r Wyddfa a does yr un ohonyn nhw'n ddiogel," meddai.

"Rhaid i bobl gymryd pwyll wrth fynd i fyny a mwy o bwyll wrth ddod i lawr.

Eira ar Yr Wyddfa
Gall tywydd newid yn ystod y daith i gopa'r mynydd

"Mae rhai llwybrau yn sychach nai'i gilydd ond maen nhw i gyd yn wahanol yn y gaeaf oherwydd y tywydd y rhew a'r eira."

Dywedodd bod pobl yn cychwyn cerdded o ochr y ffyrdd mewn tywydd braf ond wrth fynd yn uwch mae'r tywydd yn dirywio.

"Dwi'n apelio ar bobl i fwynhau'r mynyddoedd ond cofio mai mynyddoedd ydyn nhw.

"Mae'r tywydd yn gallu newid ac mae angen cael ystadegau a gwybodaeth fanwl cyn cychwyn.

"Mae 'na wardeiniaid ar gael i ateb cwestiynau ac i gynnig cyngor ac os nad ydach chi dal yn siwr, yna trowch yn ôl.

"Mae'n atynfa i fynd i gopa mynydd ucha Cymru a phobl ofn troi yn ôl ac eisiau cyrraedd y copa.

"Ond mae'r tymheredd yn gostwng 4 gradd bob 1,000 troedfedd ac os nad ydi pobl yn barod efo mwy o ddillad a dillad glaw yna fe all y tywydd gael gafael arnoch chi."

Disgwyl damweiniau

Fe ddywedodd Mr Roberts bod y rhan fwyaf o ddamweiniau yn digwydd ar y ffordd i lawr.

"Mae pobl wedi blino, ddim yn canolbwyntio a ddim yn edrych lle maen nhw'n rhoi eu traed," ychwanegodd Mr Roberts.

Dywedodd Merfyn Jones, aelod o dîm achub mynydd Llanberis, bod 'na sawl rheswm pam bod pobl yn mynd i drafferthion, ond fel arfer dydi pobl ddim wedi paratoi yn ddigonol.

"Ond mae 'na rai a fydd yn cael damweiniau ac mae hynny i'w ddisgwyl ar y mynydd.

"Ond wrth ategu neges yr awyrlu mae angen i bobl baratoi yn drylwyr.

"Dwi'n annog pawb i fynd i fyny'r Wyddfa rhywbryd yn eu bywydau ond yn pwysleisio bod rhaid paratoi cyn mynd.

"Rhaid gwneud yn siwr bod yr offer cywir ganddyn nhw, ymddwyn o fewn eu profiad, bod ganddyn nhw fap a chwmpawd ac offer diogelwch a gwybodaeth sut i'w defnyddio."



HEFYD
Agor canolfan ar gopa'r Wyddfa
12 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific