British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Mehefin 2009, 16:14 GMT 17:14 UK
Nodi lleoliad yr Eisteddfod gynta

Yr Athro Hywel Teifi Edwards wnaeth ddadorchuddio'r plac

Cafodd plac ei ddadorchuddio i nodi cychwyn un o sefydliadau amlyca Cymru.

Ar Neuadd y Farchnad Aberdâr, lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol gynta, y cafodd plac glas ei osod.

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yno yn 1861.

Arbenigwr ar yr eisteddfod, Yr Athro Hywel Teifi Edwards, wnaeth ddadorchuddio'r plac.

Cafodd yr eisteddfod yn Aberdâr ei chynnal wedi cyfarfod yn flwyddyn yn gynt yn Eisteddfod Dinbych a oedd yn ystyried argymhellion gan Clwydfardd a Glan Alun i sefydlu eisteddfod flynyddol ar gyfer Cymru gyfan, yn y gogledd a'r de yn eu tro.

"Fan hyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf," meddai'r Athro.

"Doedd 'na ddim eisteddfodau cenedlaethol cyn hynny.

"Roedd hi'n fenter o wir bwys.

"Mae'r ffaith ei bod wedi llwyddo.....yn dweud llawer am ein diwylliant, diwylliant sy'n gwrthod ildio."

Rhyfeloedd byd

Daeth y gyfres flynyddol a gychwynnodd ag Eisteddfod Aberdâr i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868.

Ond yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.

Hywel Teifi Edwards oedd yn dadorchuddio'r plac
Hywel Teifi Edwards oedd yn dadorchuddio'r plac

O dan nawdd y gymdeithas honno y cafodd Eisteddfod Merthyr Tudful ei gynnal yn 1881.

Ers hynny mae 'na eisteddfod wedi cael ei gynnal yn ddi-dor ac eithrio yn ystod y rhyfeloedd Byd.

Doedd 'na ddim Eisteddfod yn 1914 ac roedd eisteddfodau 1915 a 1941-49 yn llai o faint ac fe gafodd eisteddfod 1940 ei gynnal ar y radio.

Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chymdeithas Hanes Cwm Cynon sy'n gyfrifol am osod y plac.

Mae'n un o nifer o blaciau sy'n cael eu gosod yn y sir i nodi adeiladau hanesyddol a chartrefi enwogion y fro.

"Mae'n un o'r adeiladau pwysica yn y dref," meddai Cadeirydd y Gymdeithas Hanes, Les Davies.

"Ond mae 'na arwyddocâ ehangach, arwyddocâd cenedlaethol.

"Fan hyn y daeth y cydbwyllgor i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol cydnabyddedig cyntaf.

"Heb wadu problemau yn y cymoedd..mae 'na hanes, arwriaeth, ddewrder, brwdfrydedd a gweledigaeth.

"Mae gosod y placiau glas yn rhan o'r weledigaeth fel bod pobl yn darganfod pwy ydyn nhw a phwy oedden nhw a phwy allen nhw fod."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific