British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009, 10:59 GMT 11:59 UK
Agor canolfan ar gopa'r Wyddfa

Rhodri Morgan yn agor Hafod Eryri

Mae Hafod Eryri, yr adeilad newydd ar gopa'r Wyddfa, wedi cael ei agor yn swyddogol ddydd Gwener.

Cost yr adeilad newydd yw £8.5 miliwn ac fe gafodd ei agor flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl.

Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wnaeth agor y ganolfan ar ôl cerdded i'r copa.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Caerwyn Roberts, mai hwn yw "un o'r diwrnodau pwysicaf yn hanes y parc cenedlaethol".

Fe wnaeth mwy na 500,000 o bobl gerdded neu fynd ar y trên i'r copa'r llynedd.

"Pum mlynedd yn ôl fe benderfynodd yr awdurdod ymrwymo'r hyn oedd yn cyfateb i'w cyllid blynyddol i un prosiect, prosiect a leolwyd 3,500 troedfedd i fyny, ar gopa mynydd," meddai Mr Roberts.

Amodau anodd

"Heb ddyfalbarhad a phenderfyniad y staff, aelodau, ac yn arbennig yr adeiladwyr, ni fydden ni yma heddiw.

"Rwyf felly'n diolch o waelod calon iddyn nhw."

Canolfan newydd Hafod Eryri

Cafodd yr adeilad ei gynllunio gan y pensaer Ray Hole ac mae i fod i wrthsefyll amodau gwaethaf y tywydd.

Gall y gwyntoedd gyrraedd 150 milltir yr awr ar y copa ac mae'r glaw blynyddol yn fwy na phum medr ar gyfartaledd a gall y tymheredd ostwng i -20 Gradd Celsius.

Tegwyn Williams oedd yn gyfrifol am y safle ar ran y contractwyr Carillion.

Mae'n cyfaddef ei fod yn falch bod y prosiect wedi dod i ben.

'Gwych'

"Fwy nag unwaith, fe wnaethon ni feddwl na fyswn ni'n cyrraedd y diwrnod yma," meddai.

"Roedd 'na rai diwrnodau pan nad oedd yn bosibl cyrraedd yma.

"Ond mae'n dda ei weld wedi ei gwblhau ac mae'n edrych yn wych."

Tegwyn Williams
Tegwyn Williams oedd yn gyfrifol am y safle ar ran y contractwyr

Fe fydd y caffi yn y ganolfan yn agor rhwng 8am a 8pm bob dydd.

Bydd staff sy'n aros ar y safle yn sicrhau y bydd ar agor hyd yn oed os na all y trên gludo'r staff sydd i fod gweithio'r diwrnod hwnnw.

Yn ogystal mae yna siop, toiledau, lifft i'r anabl, ac mae'r man cyfan i'w ddefnyddio fel gofod dehongli.

Nid yw ardal y caffi ar agor i'r cyhoedd eto gan fod angen cael trwydded.

Mae'r ganolfan yn orsaf reilffordd i'r trên sy'n cyrraedd y copa.

'Eicon mawreddog'

Mae Mr Morgan wedi agor nifer o adeiladau yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd ond mae'n torri record bersonol wrth ddringo 1,063 metr uwchben lefel y môr i'r copa ddydd Gwener.

"Mae'r Wyddfa'n dipyn mwy nag atyniad i dwristiaid," meddai.

"Mae'n un o ryfeddodau Cymru.

Y tu mewn i Hafod Eryri
Y tu mewn i ganolfan ymwelwyr Hafod Eryri

"Ac mae'n eicon mawreddog sy'n cwmpasu popeth sy'n dda am Gymru."

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnogi'r prosiect a chafwyd arain arian Amcan Un.

Llwyddodd apêl gyhoeddus i godi £350,000.

Yn wreiddiol, y bwriad oedd y byddai Hafod Eryri yn barod erbyn tymor yr haf y llynedd ond roedd eira trwm ym mis Ebrill 2008.



HEFYD
Rhybudd am beryglon
12 Meh 09 |  Newyddion
Oedi wrth agor caffi'r Wyddfa
18 Gorff 08 |  Newyddion
Hafod Eryri ar y brig
13 Rhag 06 |  Newyddion
Enwi canolfan: Anelu'n uchel
07 Rhag 06 |  Newyddion
Pa enw fydd ar y brig?
08 Rhag 06 |  Newyddion
Caffi'r Wyddfa: Carreg o Gymru
06 Medi 06 |  Newyddion
Carreg dramor: Cyfarfod
07 Awst 06 |  Newyddion
Caffi: Mwy na thafliad carreg
24 Gorff 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific