British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Mehefin 2009, 13:01 GMT 14:01 UK
Dadorchuddio cofeb i Gymro

Cofeb Tom Pryce yn Rhuthun
Cafodd y gofeb ei dadorchuddio yn Rhuthun ddydd Mercher

Ar y diwrnod y byddai'r gyrrwr ceir Fformiwla Un Tom Pryce wedi bod yn 60 oed mae cofeb yn cael ei dadorchuddio iddo yn Rhuthun.

Tom Maldwyn Pryce oedd yr unig Gymro erioed i ennill ras Fformiwla Un.

Bu farw'r gyrrwr o Ddyffryn Clwyd yn 27 oed yn Grand Prix De Affrica yn 1977.

Ers dwy flynedd mae 'na ymgyrch wedi bod i gael cofeb iddo yn ei fro enedigol.

Cledwyn Ashford ac Emlyn Williams yn seremoni dadorchuddio'r gofeb

Roedd ymgyrch ar y we cyn i Gyngor Tre Rhuthun ddechrau cronfa ariannol.

Ac roedd sêr y byd rasio ceir, gan gynnwys y Cymro David Richards, Pennaeth Tîm Prodrive, yn cefnogi'r ymgyrch.

Fel Tom Pryce mae'n dod o Ddyffryn Clwyd ac yn gadeirydd yr ymddiriedolaeth drefnodd y gofeb.

Dywedodd ffrind bore oes Tom, Cledwyn Ashford, ei fod yn falch iawn.

"O'n i ddim yn meddwl y byddai'r diwrnod yn cyrraedd, a dweud y gwir.

'Anhygoel'

"Heb help anhygoel David Richards, Bernie Ecclestone a Fformiwla Un fydden ni ddim yn cyrraedd y diwrnod yma.

"Rydan ni'n gwybod y bydd John Watson oedd yn rasio yn erbyn Maldwyn (Tom) yn dod," meddai Mr Ashford, aelod o'r ymddiriedolaeth goffa.

"Gobeithio hefyd y bydd Bernie Ecclestone yn dod hefyd ac fe fydd yn gyfle i ddiolch am ei help."

Tom Pryce
Bu farw Tom Pryce yn Grand Prix De Affrica yn 1977

Roedd Tom yn arfer rasio yn erbyn pobl fel James Hunt a Niki Lauda.

"Dwi'n siwr y bydd yn ddiwrnod emosiynol iawn, i'w fam Gwyneth yn arbennig," meddai Mr Ashford.

"Mae'n ddiwedd ar y cynllun ac fe fydd Fenella, gwraig Maldwyn (Tom) yn dod draw. Diwrnod hanner a hanner, diwrnod o dristwch a balchder.

"Gobeithio y bydd miloedd yn ymweld â'r gofeb."

'Ffantastig'

Crefftwr lleol Neil Dalrymple sy'n gyfrifol am y gofeb.

Dywedodd aelod o'r ymddiriedolaeth, Huw Howatson: "Mae wedi bod yn ddifyr iawn gweld y plât 8 troedfedd wrth 4 troedfedd yn cael ei osod.

"Mae o wedi cael ei wneud yn ffantastig.

"Mae croesffordd Hiraethog arno ac un o rasys Silverstone."

Fe fydd Hywel Lloyd, y rasiwr ceir Fformiwla Tri o Wyddelwern, yn y seremoni.

"Mi o''n i'n clywed mwy a mwy am ei enw a sôn am ei lwyddiannau yn Fformiwla Un a'r graddau is," meddai.

"Mi oedd yn diddorol dysgu amdano a'r ffaith ei fod yn Gymro ac yn dod o'r un ardal bron â fi.

"Mae o wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ac i nifer o'r bobl ifanc fod rhywun lleol wedi cyrraedd Fformiwla Un."



HEFYD
Cofeb i arwr y trac rasio
20 Maw 09 |  Newyddion
Cyfle arbennig i gofio gyrrwr
03 Chwef 09 |  Newyddion
Cofio'r Cymro, 'y gyrrwr gorau'
11 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific