Cafodd y wefan ei lansio ar Fai 15
|
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones wedi gofyn am adroddiad llawn gan Gyngor Llyfrau Cymru ynglyn â'r problemau technegol gafodd gwefan Golwg 360. Fe gafodd y wefan ei lansio ar Fai 15 diolch i gymorth ariannol o £200,000 y flwyddyn am dair blynedd gan y Cyngor Llyfrau. Ond yn fuan ar ôl iddi lansio fe gafwyd cwynion nad oedd y safle'n gweithio'n gywir. Mae cwmni Golwg Newydd yn mynnu fod y sefyllfa wedi sefydlogi erbyn hyn ac y bydd yna welliannau pellach i'r wefan dros yr wythnosau nesaf. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cadw cysylltiad agos gyda Golwg dros y cyfnod o ddatblygiad dros y misoedd nesaf. "Rydym yn ffyddiog bod y problemau technegol cychwynnol yn cael eu datrys a bod Golwg 360 yn symud i'r cyfeiriad cywir," meddai'r llefarydd Yr wythnos ddiwetha' cafodd y safle ei beirniadu gan Alun Cairns, aelod Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad. Dywedodd fod y safle yn 'embaras' a'i fod yn bwriadu codi'r mater â'r Gweinidog Diwylliant. Mae Golwg wedi dweud eu bod "wedi sefydlogi'r gwasanaeth" ac wedi ei gwneud yn glir o'r dechrau mai "cyfnod prawf oedd hwn".
|