Cafodd Evelyn Calcabrini ei hanfon yn ôl i'r Wladfa
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru Wayne David a'r Ysgrifennydd Gwladol Peter Hain wedi addo cyfarfod â swyddogion y Swyddfa Gartref yn fuan i drafod achos menyw o Batagonia.
Dywedodd Mr David ei bod hi'n "bwysig bod cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Phatagonia yn cael eu datblygu ..."
Roedd Evelyn Calcabrini, 20 oed, yn bwriadu aros â theulu yng Nglyndyfrdwy, Sir Ddinbych, er mwyn gloywi ei Chymraeg a dysgu Saesneg.
Ond ar ôl i swyddogion mewnfudo ei holi ym Maes Awyr Heathrow cafodd ei hanfon yn ôl i Dde America.
Roedd Elfyn Llwyd AS wedi dweud bod swyddogion mewnfudo wedi ymddwyn "yn gywilyddus" ar ôl anfon y fenyw yn ôl i Batagonia.
Roedd y fenyw wedi cael gwahoddiad i aros yng nghartre Eos Griffiths a'i wraig o Batagonia, Carina.
"Roedd hi wedi dod yma i loywi ei Chymraeg ac i ddysgu Saesneg," meddai Mr Llwyd.
'Holi'n dwll'
Mae'n debyg iddi deithio 20 awr o'r Wladfa i Buenos Aires cyn taith 15 awr i Heathrow.
Dywed Elfyn Llwyd fod swyddogion wedi ymddwyn yn gywilyddus
"Mi gafodd ei holi'n dwll fel petai'n rhywfath o droseddwraig gan dri pherson ar wahân," meddai Mr Llwyd.
"Dwi ddim yn siwr faint o Sbaeneg yr oedden nhw'n ei deall.
"Ai dyma'r math o groeso mae pobl Y Wladfa yn ei gael?
"Mae o'n warthus o beth a dwi'n siwr y bydda fo ddim yn digwydd yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Ffiniau fod yna reolau caeth yn ymwneud â phobl sydd am ddod yma i aros am gyfnod.
"Rhaid iddyn nhw gwrdd â'r gofynion.
"Os nad yw hyn yn digwydd bydd mynediad yn cael ei wrthod.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.