British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009, 10:12 GMT 11:12 UK
Iaith: Beirniadu corff iechyd

Logo Bwrdd yr Iaith
Gwnaed y gwyn gan rieni bachgen dwy flwydd oed

Mae swyddogion iechyd wedi cael gorchymyn i wella'r gwasanaeth Cymraeg i gleifion yng ngogledd Cymru.

Roedd rhieni bachgen dyflwydd oed wedi cwyno am "ddiffyg sensitifrwydd a pharch tuag at wasanaethau Cymraeg a siaradwyr Cymraeg".

Cafodd y gwyn ei chefnogi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Cymru y bydden nhw'n cyflwyno nifer o fesurau i wella'r sefyllfa.

Roedd y rhieni wedi cwyno am ddiffyg darpariaeth therapi llefarydd a ffisiotherapi yn Gymraeg.

Dywedodd adroddiad Bwrdd yr Iaith nad oedd yr ymddiriedolaeth wedi glynu at ei pholisi iaith ei hunan.

Deddf

Yn ôl Deddf Iaith 1993, mae'n ofynnol i'r corff fod â pholisi iaith.

Gwnaed y cwynion gwreiddiol yn erbyn Ymddiriedolaethau Iechyd Siroedd Dinbych a Clwyd.

Oherwydd ad-drefnu trosglwyddwyd eu cyfrifoldebau i Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru.

Mewn cyfarfod yn Wrecsam ddydd Mawrth penderfynodd aelodau'r ymddiriedolaeth dderbyn nifer o argymhellion gan Fwrdd yr Iaith.

Dywedodd llefarydd y byddai'r newidiadau yn sicrhau y bydd yr ymddiriedolaeth yn gweithredu yn unol â'u polisi iaith.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific