British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009, 16:57 GMT 17:57 UK
Llofruddiaeth: Enwi dyn

Anthony John Kietly
Cafodd corff Anthony John Kitely ei ddarganfod yn ei gartref ym Meirion Place

Mae'r heddlu wedi enwi'r corff a gafodd ei ddarganfod mewn fflat yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Fe gafodd corff Anthony John Kitely, 37 oed ei ddarganfod yn ei gartref ym Meirion Place, Tremorfa brynhawn dydd Sul Mehefin 7.

Dywed yr heddlu ei bod hi'n debyg ei fod e wedi cael ei drywanu.

Cafodd dynes 63 oed hefyd anafiadau ar ôl ymosodiad arni mewn tŷ gerllaw ar Ffordd Cairnmuir.

Dywed Heddlu De Cymru fod y ddynes yn parhau i gael triniaeth am anafiadau difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd a'i bod bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae'r heddlu yn parhau i holi gŵr 37 oed mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth ac am yr ymosodiad ar y ddynes.

Amheus

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Llun.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf mae'r heddlu wedi bod yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws yn yr ardal.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Dale Ponting: "Ar hyn o bryd rydyn ni'n credu bod y dyn, gafodd ei arestio ddydd Sul ac sydd yn y ddalfa, yn adnabyddus i'r ddau...," meddai.

"Rydym yn awyddus iawn i siarad gydag unrhyw un oedd wedi clywed neu wedi gweld unrhyw beth o gwmpas Meirion Place rhwng 5.50pm nos Sadwrn a 12.50pm ddydd Sul."

Mae swyddog cyswllt teulu'r heddlu yn gofalu am berthnasau'r dioddefwyr.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Colette Paul: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig, ac rydyn ni'n meddwl am deuluoedd y ddau."

Dywedodd ei gymydog, Carol Manely: "Roedd e'n ddyn hyfryd, na fyddai'n achosi niwed i bryf.

"Mae hi mor drist ei fod e wedi mynd, rwy'n drist iawn.

"Fe fyddai fe'n neidio o weld ei gysgod ei hun."

Roedd y dyn yn byw ar ben ei hun, ond roedd ganddo fab.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Swyddfa'r Heddlu Tyllgoed ar 02920 571 530 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific