BU'r pwyllgor yn cynnal yr arolwg am bum mis
|
Mae angen sefydlu Comisiwn Cyfryngau â £25 miliwn o arian cyhoeddus i ddiogelu dyfodol ITV Cymru, yn ôl adroddiad. Dywedodd adroddiad Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y cynulliad fod angen sicrhau na fydd prinder rhaglenni am Gymru ar y teledu yn y dyfodol. Maen nhw wedi dweud bod ITV wedi cwtogi nifer y rhaglenni am Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd y pwyllgor fod angen y comisiwn annibynnol er mwyn ariannu rhaglenni sy'n cynnig dewis arall i ddarpariaeth y BBC. Mae'r pwyllgor wedi bod yn cynnal yr arolwg ers pum mis a'r unig ffordd i warchod cystadleuaeth, meddai, mewn darlledu gwasanaeth cyhoeddus ydi ariannu comisiwn annibynnol. Fe fyddai'r corff newydd yn comisiynu rhaglenni newyddion a rhaglenni cyffredinol, yn wreiddiol ar gyfer ITV Cymru, ac yn defnyddio'r arian i gomisiynu rhaglenni gan gyrff annibynnol. 'Amrywiaeth' "Rydyn ni wedi gweld llai o raglenni Cymreig ar ITV Cymru yn y blynyddoedd diweddar," meddai cadeirydd y pwyllgor, Janice Gregory. "Ond mae amrywiaeth darlledu yn Saesneg a Chymraeg yn hanfodol ar gyfer dyfodol y broses ddemocrataidd ac, yn wir, i ddatganoli yng Nghymru. "Mae sefyllfa ITV yn ddifrifol ar hyn o bryd, yn enwedig yn sgîl penderfyniad ei rheolwr, Elis Owen, i adael y cwmni. "Oherwydd ei benderfyniad i adael, dyw ITV yng Nghymru ddim yn cael ei ystyried yn wasanaeth rhanbarthol bellach ac mae'n cyfuno â Granada a Central."
Mae rhaglenni am Gymru gan ITV Cymru wedi gostwng dros y blynyddoedd
|
Roedd y pwyllgor, meddai, yn teimlo mai corff annibynnol fyddai'n comisiynu rhaglenni gan gynhyrchwyr annibynnol i'w darlledu ar y BBC ac ITV fyddai'r unig ffordd o ddiogelu traddodiad o raglenni dwyieithog yng Nghymru. Mae ITV Cymru wedi croesawu'r adroddiad. "Mae Ofcom wedi cynnig trefniant ariannu dadleuol fel un ffordd posib i wasanaeth newyddion teledu rhanbarthol a chenedlaethol masnachol barhau," meddai llefarydd. "Ac mae ITV yn cefnogi'r syniad ac wedi cynnig llenwi'r gofod yn eu hamserlen fel llwyfan ar gyfer newyddion gan gonsortiwm annibynnol. "Rydym yn croesawu'r adroddiad a byddem yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion." Mae'r adroddiad yn dweud fod angen creu'r corff ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig, gan gymryd cyfrifoldeb am swyddogaeth panel ymgynghori Ofcom yng Nghymru, ac i ariannu rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill i gynhyrchwyr annibynnol. Trwydded i Gymru Mae 'na awgrym y dylai'r £25 miliwn o'r gronfa gomisiynu gael ei gasglu drwy gymysgedd o ffi ar ddarparu di-PSB, arian y loteri ac arian cyhoeddus gan y ddwy lywodraeth. Mae'r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad gydweithio â darlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol i weithio â'r BBC i ddatblygu cyfryngau creadigol cryf yng Nghaerdydd. Fe fydd y pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth y Cynulliad i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Prydain i adolygu'r Ddeddf Darlledu er mwyn creu un drwydded unigol i Gymru. Mae'r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai gweinidogion yng Nghymru, ynghyd ag Ofcom, adolygu'r posibilrwydd o ddatganoli'r broses o ddosbarthu trwyddedau radio cymunedol yng Nghymru. Mae'r pwyllgor hefyd wedi methu cefnogi cynnig gan S4C i ddarparu newyddion Saesneg ar ITV. Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn edrych ymlaen at roi "ystyriaeth fanwl" i'r adroddiad. "Byddwn yn edrych yn ofalus ar yr argymhellion a gyhoeddir yn yr adroddiad ac yn pwyso a mesur effaith posib yr argymhellion ar S4C petai nhw'n cael eu mabwysiadu," meddai.
|