British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 7 Mehefin 2009, 13:53 GMT 14:53 UK
'Deall beth ydy bod yn eofn'

Cofeb ym mhentref Everecy
Cofeb ym mhentref Everecy

Wrth i gyn-filwyr o Gymru adael Ffrainc am y tro olaf ar derfyn cofio glaniad D-day 65 mlynedd, mae Iolo ap Dafydd wedi treulio'r dyddiau diwethaf gyda nhw yn Normandi wrth iddyn nhw ymweld â safleoedd o bwys i'r Cymry.

I bob cenhedlaeth mae atgofion a chyfnod sydd wedi creu argraff. I ddynion a oedd yn filwyr ifanc rhwng 18 a 25 yn y 1940'au, does dim amheuaeth mai blwyddyn olaf yr Ail Ryfel Byd ydy hynny.

Wrth eu gwylio'n ymlwybro'n benisel rhwng beddau eu cyfeillion sydd wedi eu claddu ar hyd a lled Normandi, mae dyn yn sylweddoli nad ydy treigl amser yn lleddfu pob hen boen, ac nad ydy hen glwyfau yn cael eu cau yn llwyr.

Balchder

Trwy eu dagrau, mae balchder yn yr hyn a gyflawnwyd. Ond mae 'na gwestiynu hefyd. Holi pam bod cynifer o fechgyn ifainc - o Gymru i Ganada - o ar hyd Ewrop i bellafion America, Awstralia ac Affrica, wedi marw ym mlodau eu dyddiau.

Gwasanaeth coffa ym mhentref Maizet
Gwasanaeth coffa ym mhentref Maizet

Yn Normandi, mae sawl cofeb i'r Cymry a laddwyd. Hen gatrodau sydd wedi diflannu bellach wrth i wariant y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r llywodraeth grebachu. Bathodynnau a berets yn perthyn i oes a fu.

I'r Ffiwsilwyr Cymreig mae Evrecy - y caeau a'r pocedi o goed o amgylch - yn fannau cysegredig. Mae'r pentref yng nghesail llechwedd i'r de o ddinas Caen. Fan hyn roedd brwydr Hill 112. Tir 112 metr uwchlaw lefel y môr a oedd yn fan strategol o bwys ar ôl glaniad y Cynghreiriaid wedi Mehefin 6ed 1944. Pwy bynnag a reolai'r tir yma a oedd yn rheoli'r ffyrdd o amgylch Caen ac i'r dwyrain tuag at Baris.

Ganol Gorffennaf yn y brwydro ffyrnig rhwng pedair catrawd Almaenig, ar y copa gyda'u tanciau Panzer a Tiger, roedd y Cymry a'r Saeson o gatrodau eraill yn ceisio eu disodli. Credir i saith mil o ddynion gael eu lladd yn y caeau hyn. Erwau glas bellach, gyda chaeau gwenith wedi'i britho a choch y pabi sy'n tyfu'n wyllt.

'Dros ryddid'

Ar garreg - mewn tair iaith gan gynnwys Cymraeg - ysgrifennwyd: "Mae'r gofeb wedi ei chysegru gan Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol er cof am y 235 o swyddogion a dynion o'r 4edd, 6ed a 7fed Bataliwn. Ag o 8 arall o'r gatrawd a roddodd eu bywydau dros ryddid yn ystod rhyddhau Normandi rhwng Mehefin ac Awst 1944."

Nais Parasiwt y Llynges Frenhinol
Cafodd llawer o wasanaethau a seremoniau eu cynnal dros y penwythnos i goffau'r milwyr

Yn ôl Hywel Davies o'r Wyddgrug, a wasanaethodd gyda phedwaredd fataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig, yr hyn sy'n aros gydag ef ydy'r

"… bwledi a oedd yn gwibio o bob cyfeiriad ……. y caeau gwenith yn siffrwd yn y gwynt ……. a'r sneipers yn cuddio ynddyn nhw, ag yn tanio …. y bomiau mortar yn glanio'n ddirybudd, a'r ofn parhaol wrth i'r ymladd waethygu…"

'Brawychu'

Brwydro yn ne Normandi, yn nes i Falaise - safle cerflun Gwilym Goncwerwr a newidiodd hanes Lloegr yn 1066 - yr oedd Tony Pengelley. Roedd yn filwr yn ail fataliwn Catrawd Sir Fynwy.

".. imi fel dyn inffantri yr hyn oedd yn brawychu dyn oedd gorfod codi o'r caeau a rhedeg ymlaen ar dir agored wrth i ddynion danio tuag atoch. Bryd hynny roeddech chi'n deall beth ydy bod yn eofn. Doeddwn i ddim yn filwr arbennig o dda na dewr, ond mi nes i weld milwyr a oedd yn grefftus ac yn ddewr iawn."

Yna yn Asnelles sy'n llechu ger tref Arromanches a ger traeth Gold, mae cofeb arall i gatrawd sydd wedi diflannu. Y South Wales Borderers oedd yr unig gatrawd Gymreig i lanio ar ddiwrnod D-day ei hun. Yn eu plith roedd Bill Evans o Aberpennar. Yn 23 oed a dyn dwylath o daldra mae atgofion Bill yn fanwl fanwl o'r hyn a welodd ar y diwrnod hwnnw.

Bill Evans o Aberpennar
Bill Evans: 'llwyddo i gyrraedd y lan gyda bwledi yn glanio o'n hamgylch'

"Dwi'n cofio'r ramp yn mynd lawr, a'r criw o Americanwyr ar y cwch yn dweud ein bod ni wedi cyrraedd y traeth… ond mynd i mewn i 8 troedfedd o ddŵr nes i … a diflannu o dannodd tan nes i lwyddo i gyrraedd y lan gyda bwledi yn glanio o'n hamgylch. Wedyn ar y tir rhyw redeg deg llath, a lluchio'n hunain i ffos, codi a rhedeg deg llath arall cyn cyrraedd y man rendevous yng nghoed Mauvains."

Mae'n 88 oed, ac yn dalp mawr o Gymreictod, sy'n gallu areithio'n huawdl am ei gyd-Gymry a gollodd eu bywydau mor ifanc. Mae'n falch iawn o'r gofeb yn Asnelles, ble mae baner Draig Goch a chofeb barhaol i'r Borderes yn datgan mewn Ffrangeg, Saesneg a Chymraeg bod ei gatrawd gyda'r anrhydedd o lanio yn Normandi ar y diwrnod mawr.

A ger Eglwys Maizet y bore 'ma, ger plac i gofio'r Cymry a laddwyd roedd Ffrancwyr lleol a'r ymwelwyr o Gymru yn cynnal gwasanaeth coffa answyddogol.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Daw e byth mas o'r meddwl'
06 Meh 09 |  Newyddion
1944: Cofio'r aberth eithaf
05 Meh 09 |  Newyddion
Arweinwyr a chyn-filwyr yn cofio D-Day
06 Meh 04 |  Newyddion
D-Day: Morgan yn ymddiheuro
06 Meh 04 |  Newyddion
Morgan 'yn anwybyddu D-Day'
04 Meh 04 |  Newyddion
Cyn filwyr yn cofio D-day
04 Meh 04 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific