British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 7 Mehefin 2009, 09:44 GMT 10:44 UK
Llifogydd: 100 yn gadael tai

Y cynghorydd John Bell i fyny at ei ben-glin yn y dŵr yn Ffordd y Fynwent, Trefforest
Y Cynghorydd John Bell yn Heol y Fynwent, Trefforest

Mae llifogydd wedi achosi problemau mewn rhannau o'r de.

Bu'n rhaid i hyd at 100 o bobl adael eu tai wedi llifogydd yn Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn.

Arhosodd 15 o bobl mewn canolfan gymunedol yn Rhydyfelin, ger Pontypridd am nad oedd tair ffos yn gallu ymdopi â glaw trwm.

Mae un cynghorydd yno yn amcangyfrif bod rhwng 30 a 40 o dai wedi dioddef llifogydd.

Cafodd Gwasanaeth Tân y De eu galw i ddelio â llifogydd yng Nghaerffili ac ardaloedd Rhiwbeina, Y Rhath a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Llifogydd yn y Rhath, Caerdydd nos Sadwrn (llun: Twm Gardner)
Llifogydd yn y Rhath, Caerdydd nos Sadwrn

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn 450 o alwadau o ardaloedd Pontypridd, Caerdydd a Chaerffili rhwng 3.00pm a 11.00pm ddydd Sadwrn.

Mewn rhai tai roedd y dŵr yn cyrraedd y nenfwd ac aed ag un person i'r ysbyty am fod ei goes wedi torri.

Dywedodd y Cynghorydd Maureen Webber, sy'n cynrychioli canol Rhydyfelin ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, bod "grym y dŵr yn anhygoel" o gofio bod cyfres o lifogydd wedi bod ers 30 mlynedd.

"Mae'n drist bod pobol wedi gorfod diodde eto.

"Ac mae'r holl beth yn eironig ... ry'n ni newydd gael £2.4m er mwyn ceisio delio â'r broblem."

Dywedodd Mandy Hallett, sy'n byw ar Stad Rhydyfelin: "Mae'r walydd i gyd wedi dymchwel.

"Fe weles i rieni'n llefen y glaw wrth gario eu plant ar eu hysgwydde ..."

Yng Nghwm Cynon dywedodd arweinwyr cyngor fod rhai yn yr ysbyty am fod eu coesau neu eu breichiau wedi torri ac oherwydd bod rhai wedi llyncu dŵr brwnt.

Os ydych chi'n poeni am y perygl o lifogydd, y rhif i'w ffonio i gael gwybodaeth yw 0845 988 1188.



HEFYD
Ymchwiliad i lifogydd
05 Meh 09 |  Newyddion
17 m i gynlluniau llifogydd
17 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific