Arwydd ar ffordd A5 yn Nyffryn Ogwen brynhawn Sadwrn
Mae timau achub yn ardal Eryri wedi llwyddo i ddod o hyd i'r bobl aeth ar goll yn ystod ras ar yr Wyddfa ddydd Sadwrn. Fe gafodd wyth o bobl eu cludo i'r ysbyty mewn hofrenyddion a chafodd 25 eu helpu. Daethpwyd o hyd i'r ddau ola yn hwyr ddydd Sadwrn. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r ras flynyddol 22 milltir o hyd ac roedd 245 o gystadleuwyr yn cymryd rhan. Roedd milwr wedi marw yn y ras yn 2007 wedi iddo gwympo 500 troedfedd. Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y ras wedi dechrau am 9.00am. 'Ofnadwy' Awr yn ddiweddarach cafodd yr heddlu alwadau ffôn am fod y tywydd yn "ofnadwy". O 3pm ymlaen roedd yr Awyrlu a thimau achub yn chwilio Mynyddoedd y Carneddau yn ardal Bethesda. Roedd hofrenyddion yr Awyrlu o'r Fali ar Ynys Môn a Chivenor yn Nyfnaint yn helpu achub pobl ynghyd â Tîm Achub Mynyddig Dyffryn Ogwen. Dywedodd llefarydd ar ran yr Awyrlu fod cymylau isel, glaw trwm a gwyntoedd cryf wedi gwneud y dasg achub yn anodd. "Y broblem fwya i'r rhedwyr oedd effeithiau'r tywydd oer," meddai Dave Worrall arweinydd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen. Dywedodd Tony Varley, cadeirydd y Gymdeithas Rhedwyr Bryn: "Yn amlwg, gall rhywbeth fynd o'i le hyd yn oed os yw'r rhedwr yn holliach. "Gall rhywun gael ei anafu neu golli cyfeiriad oherwydd blinder neu dywydd ofnadwy." Mewn digwyddiad ar wahân ar lwybr Llanberis, cafodd menyw ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.
|