Dywed Paul Flynn fod y prif weinidog wedi bod yn 'amddiffynnol ac amhenderfynol'
|
Mae Aelod Seneddol amlwg yn y Blaid Lafur Cymreig wedi galw ar y Prif Weinidog i adael ei swydd. Dywedodd aelod Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, nad oedd Gordon Brown wedi bod yn ddigon pendant wrth ddelio â helytion treuliau Aelodau Seneddol. Ond daeth cefnogaeth i'r Prif Weinidog gan Wayne David, Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig, a'i ddisgrifiodd fel y person gorau i arwain y wlad. Ddydd Iau, wrth adael y cabinet, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, James Purnell, annog Mr Brown i ymddiswyddo. 'Lleiafrif bach' Dywedodd Mr David wrth raglen Dragon's Eye BBC Cymru fod Mr Purnell yn rhan o "leiafrif bach a dethol", a bod y mwyafrif distaw o fewn y blaid Lafur seneddol yn dal i gefnogi'r prif weinidog. Ychwanegodd ei fod yn gwbwl sicr mai Mr Brown fyddai'n arwain y blaid i'r etholiad cyffredinol nesaf.
 |
Mae ganddo'r polisïau, y perspectif a'r cryfder i fynd â ni ymlaen
Wayne David AS Llafur, Caerffili
|
"Does dim amheuaeth mai ef yw'r person gorau i arwain y wlad. Mae nifer fawr o weinidogion a nifer fawr o aelodau'r blaid Lafur seneddol yn gadarn y tu cefn i Gordon Brown," ychwanegodd. "Mae ganddo'r polisïau, y persbectif a'r cryfder i fynd â ni ymlaen." Ond dywedodd Mr Flynn ei fod yn gobeithio y byddai Mr Brown yn derbyn "barn mwyafrif y blaid Lafur seneddol, ac y byddai'n "gadael yn drefnus a chyflym." "Mae e wedi bod yn araf, yn amddiffynnol ac ddim yn ddigon penderfynol ynglŷn â mater treuliau. "Mae yna farn eang yn y blaid seneddol nawr yn galw am newid," ychwanegodd Mr Flynn. Beirniadaeth am dreuliau Dywedodd Dai Havard, AS Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, y byddai'n rhaid i enwau mwy na James Purnell adael y cabinet cyn y byddai Mr Brown yn mynd. "Fe fydd hi'n gyfnod diddorol dros y dyddiau nesa," meddai, "ond dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i rai o'r enwau mawr fynd cyn i Gordon Brown adael ei swydd." "Pe bai'r Arglwydd Mandelson yn symud er enghraifft, pwy a ŵyr?" Dywedodd AS Llafur Aberafan, Hywel Francis, ei fod yntau 100% tu ôl i Gordon Brown. Ychwanegodd ei fod wedi derbyn e-bost fore Gwener oedd yn ymddangos fel rhan o ymgyrch yn erbyn y prif weinidog, ond nad oedd wedi ei arwyddo, a'i fod yntau yn gwbwl gefnogol i Mr Brown.
|