British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Mehefin 2009, 16:16 GMT 17:16 UK
Fferm: Dwyn gwerth £40,000

Massey Ferguson
Cafodd dau dractor eu dwyn o fferm ger Llanfair-ym-Muallt

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i beiriannau gwerth mwy na £40,000 eu dwyn o fferm ym Mhowys.

Cafodd nifer o eitemau, gan gynnwys dau dractor Massey Ferguson, eu dwyn o gae fferm Hundred House ger Llanfair-ym-Muallt.

Roedd gwerth £600 o offer wedi eu dwyn ar Fai 25.

Mae perchennog y peiriannau Ivor James, sy'n rhedeg busnes contractio a siop amaethyddol, wedi dweud y dylai unrhyw dystion ffonio'r heddlu.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Martin Tavener o Heddlu Dyfed Powys: "Mae'r lladrad yn arwyddocaol am fod llawer o'r eitemau sydd wedi cael eu dwyn yn hawdd i'w hadnabod, yn anodd iawn i'w gwerthu."

Dylai pobl sydd ag unrhyw wybodaeth ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 101.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific