British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Mehefin 2009, 14:28 GMT 15:28 UK
Dau ladrad: Heddlu'n apelio

Car yr heddlu
Digwyddodd y ddau ladrad ger Bae Abertawe

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ddau lladrad ger traeth poblogaidd nos Fawrth.

Cafodd dyn 18 oed ei daro a chafodd swm o arian ei ddwyn wrth iddo eistedd ar laswellt ger Bae Abertawe am 8pm.

Ychydig o oriau'n ddiweddarach cafodd dyn 27 oed ei fygwth gan dri dyn, dau ohonyn nhw'n cario cyllyll. Cafodd set o allweddi ei ddwyn.

Does dim sicrwydd eto a yw'r ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig.

Pydru

Roedd y lladrad cyntaf y tu ôl i Neuadd y Sir ar Heol Ystumllwynarth.

Rhedodd y lladron i gyfeiriad Tesco.

Mae'r dyn cyntaf rhwng 5'5'' a 6'0'', rhwng 25 a 30 oed, â dannedd wedi pydru, gwallt byr golau, ac acen leol ac roedd e'n gwisgo crys T gwyn a throwser byr.

Ac mae'r ail ddyn rhwng 5'5'' a 6'0'', yn eitha mawr, rhwng 20 a 30 oed, â gwallt byr golau, acen leol, ac roedd e'n gwisgo crys T glas a throwser byr.

Cyllyll

Wedyn cafodd allweddi eu dwyn oddi wrth ddyn oedd yn cerdded rhwng Lôn Brynmelin a'r brifysgol am 10.45pm.

Roedd dau o'r tri dyn yn cario cyllyll a rhedodd y tri i gyfeiriad Blackpill.

Mae'r tri rhwng 20 a 30 oed, yn foel, yn eitha mawr, rhwng 5'8'' a 6'0'', un yn gwisgo trowser du ac un yn gwisgo trowser glas.

Doedd dim un o'r tri yn gwisgo top.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01792 450618 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific