Mae 264 o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru
|
Mae 2 achos arall o'r frech goch wedi eu cofnodi yng Nghymru. Erbyn hyn mae 277 o achosion wedi bod, y mwyafrif ohonyn nhw'n blant. O'r rhain mae 210 o achosion yn y gorllewin a'r canolbarth, 56 yn y gogledd a 11 yn y de ddwyrain. Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru yn annog rhieni i sicrhau pigiad MMR i'w plant. Yn ôl y ffigyrau diweddara, mae tua 40,000 o blant heb dderbyn y pigiad ac felly does ganddyn nhw ddim amddiffyniad rhag y frech goch, clwy'r pennau na rwbela.
|