British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Mehefin 2009, 06:05 GMT 07:05 UK
Ffatri: 300 o swyddi'n mynd

Indesit, Bodelwyddan
Cau ffatri: 'Ergyd fawr i'r ardal'

Mae gweithwyr ffatri peiriannau golchi dillad wedi cael gwybod y bydd ffatri ym Modelwyddan yn cau ym mis Awst.

Yn ffatri Indesit mae mwy na 300 yn gweithio.

Y diwrnod swyddogol ar gyfer cau yw Awst 14 ond mi fydd y safle'n cau i bob pwrpas ddiwedd Gorffennaf wrth i'r ffatri gau ar gyfer gwyliau'r haf.

Ym mis Mawrth roedd rheolwyr wedi cyhoeddi cynlluniau i gau'r safle oherwydd llai o alw am gynnyrch.

Roedd y cyhoeddiad ddydd Mercher wedi cyfnod o ymgynghori ag undebau.

"Mi wnaethon ni ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys mwy o fuddsoddi, ailstrwythuro'r ffatri a chynhyrchu eitemau newydd," meddai llefarydd.

"Yn anffodus, roedd pawb yn cytuno nad oedd yr opsiynau yn gynaliadwy ac oherwydd cyflwr y farchnad, a chostau cynhyrchu uwch roedd rhaid penderfynu cau."

Dywedodd swyddogion undeb Unite bod y cyhoeddiad yn golygu fod y diwydiant gweithgynhyrchu peiriannau golchi ym Mhrydain ac y bydd y swyddi yn cael eu symud i Wlad Pwyl.

'Ergyd fawr'

Fe ddywedodd Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, ei bod yn "ddiwrnod trist i'r diwydiant gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru".

Yn ôl y cyngor sir mae'r cyhoeddiad yn "ergyd fawr" i'r economi leol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi eu "siomi" er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cysylltu gyda phencadlys y cwmni yn yr Eidal.

"Mae staff y cyngor yn cyd-weithio gyda'r cwmni ac adrannau o'r llywodraeth i roi cymorth i'r gweithwyr fydd yn colli eu swyddi geisio dod o hyd i swyddi eraill ar y safle," meddai.

Fe fydd y cwmni'n cydweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a'r Ganolfan Waith cyn cynnig cynlluniau ailhyfforddi.

"Fe garwn ni ddiolch i'r gweithwyr am eu hymroddiad a'u hagwedd broffesiynol yn ystod cyfnod anodd," meddai Carlos Ramos, cyfarwyddwr Prydeinig y cwmni.

Dywedodd Alwyn Rowlands, swyddog llawn amser undeb Amicus, y byddai cau'r ffatri'n golygu diwedd ar gynhyrchu peiriannau golchi dillad.

"Unwaith y bydd Bodelwyddan yn cau, fydd 'na nunlle yng Nghymru, yr Alban na Lloegr yn gwneud y peiriannau hyn," meddai.

'Na'

Ychwanegodd fod y cyfnod ymgynghorol yn "gwbl ffug" ac nad oedd y cwmni wedi ystyried unrhyw gynigion i gadw'r gwaith yng Ngogledd Cymru.

"Na, na, na oedd hi i gynigon yr undeb," meddai.

Dywedodd ei fod yn credu y byddai'r gwaith cynhyrchu'n symud i Wlad Pwyl lle bu staff o Fodelwyddan yn hyfforddi gweithwyr.

Ychwanegodd Ann Jones AC Dyffryn Clwyd nad oedd y cyhoeddiad wedi peri syndod iddi.

"Er yr oeddwn i'n obeithiol ar y dechrau y bydden ni wedi gallu achub y ffatri, rydw i'n awr yn teimlo fod y cwmni, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cynnal cyfnod ymgynghori, wedi gwneud eu penderfyniad i adael Bodelwyddan yn barod."

Indesit ddisodlodd Hotpoint yn 2001 ac yn 2004 roedd 750 o weithwyr yn y ffatri ym Modelwyddan.



HEFYD
Colli 305 o swyddi
03 Maw 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific