British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009, 21:13 GMT 22:13 UK
Pryder am 2,000 o swyddi

Buwch
Mae'r cwmni yn cynhyrchu 10% o lefrith Prydain

Mae 'na bryder am dros 2,400 o swyddi yng Nghymru a Lloegr, wrth i gwmni llaeth cydweithredol Dairy Farmers of Britain gyhoeddi eu bod nhw yn nwylo'r derbynwyr.

Mae'r cwmni wedi bod mewn trafferthion ers tro ac mae 'na ansicrwydd bellach ynglyn â swyddi ym Mhen-y-bont ac yn ffatri gaws Llandyrnog.

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n parhau i geisio dod o hyd i brynwr i ran o'r busnes.

Mae dros 1,800 o ffermwyr yn cyflenwi dros 1 biliwn litr o lefrith y flwyddyn i Dairy Farmers of Britain y flwyddyn, ac felly'n gyfrifol am 10% o'r llefrith sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain.

Mae llawer o'r gweithwyr wedi cael eu lleoli yn llaethdai Blaydon, Nantwich, Lincoln, Llandyrnog, Pen-y-Bont-ar-Ogwr a Lubborn.

'Trafferthion'

Fe gafodd y cwmni ei sefydlu yn 2002 wrth i gwmniau Zenith Milk a The Milk Group uno.

Serch hynny, maen nhw wedi bod mewn trafferthion ers tro.

Ar ôl iddyn nhw wneud colledion bu'n rhaid i laethdai Fole a Portsmouth eu cau fis Tachwedd y llynedd mewn ymgais i ailstrwythuro'r busnes.

Mae'r cwmni hefyd wedi cael trafferth talu pris cystadleuol am lefrith eu haelodau, gyda llawer ohonyn nhw'n penderfynu gadael eu cytundebau.

Mae'r cwmni hefyd wedi colli eu cytundeb gyda'r archfarchnad Co-operative, a fydd yn dod i ben ar Awst 1.

Serch hynny, fe ddywedodd y cwmni eu bod wedi gwerthu eu busnes cynhwysyddion Nene i gwmni Meadow Foods.

Maen nhw hefyd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda chwmniau i werthu eu ffatrioedd cynhyrchu caws gan gynnwys ffatri gaws Cadog yn Llandyrnog sy'n cyflogi dros 160 o weithwyr.

'Amodau marchnad anodd'

Prynhawn ddydd Mercher fe gafodd Stephen Oldfield, David Kelly ac Ian Green eu penodi yn dderbynwyr i'r cwmni.

Fe ddywedodd Stephen Oldfield, sydd hefyd yn bartner i PricewaterhouseCopper LLP, fod Dairy Farmers of Britain wedi wynebu amodau anodd yn y farchnad lefrith.

"Mae DFOB wedi wynebu amgylchiadau anodd iawn yn y farchnad lefrith, ac mae'r ymdrech i werthu'r cwmnïau llefrith yn parhau," meddai.

"Ond doedd bwrdd y DFOB ddim yn medru dod o hyd i ffordd ymarferol ymlaen yn sgil colli cyfleoedd masnachu ac yn methu talu pris cystadleuol i ffermwyr am eu llefrith."

"Fe fydd fy nhîm yn ymdrechu i gydweithio gyda'r prif gyflenwyr a'r cwsmeriaid i sicrhau y bydd y broses o gasglu'r llefrith a'i ddosbarthu yn parhau.

"Bydd hyn ddim yn hawdd ond gyda chymorth ein cludwyr a'n cwsmeriaid, rwy'n gobeithio y bydden ni'n medru parhau i gasglu rhan fwyaf o lefrith y cwmni.

Ychwanegodd: "Fe fyddem ni hefyd yn ffocysu bennaf ar farchnad caws caled a llefrith er mwyn ceisio diogelu mwyafrif o'r swyddi.

Fe ychwanegodd cadeirydd bwrdd DFOB, yr Arglwydd Grantchester: "Beth sy'n bwysig nawr yw bod y cyflenwadau yn parhau i'n cwsmeriaid, bod swyddi yn cael eu harbed a bod yna gartref i'r llefrith mae ein cyflenwyr yn ei gynhyrchu."

Ddydd Llun bu ffermwyr sy'n cyflenwi llefrith i ffatri gaws Saputo yn sir Gaerfyrddin yn cynnal protest tu allan i'r safle am y pris maen nhw'n ei gael gan y cwmni am eu llefrith.

Yn ystod y cyfarfod fe glywodd 40 o ffermwyr y byddai hawl ganddyn nhw i adael eu cytundebau gyda'r cwmni pe baen nhw'n dymuno.

Fe gafodd y ffatri sy'n cynhyrchu caws mozzarrella ei brynu gan Saputo ddwy flynedd yn ôl wedi i gwmni Dansco fynd i'r wal

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Saputo eu bod yn wynebu "amodau marchnad anodd" i sicrhau prisiau isel am eu cynnyrch.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ffatri: Ffermwyr yn anhapus
01 Meh 09 |  Newyddion
Ffatri gaws: Achub 130 o swyddi
23 Maw 07 |  Newyddion
Ffatri gaws: Cyfarfodydd
07 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific