British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Mehefin 2009, 09:33 GMT 10:33 UK
Canolfan: Teyrnged i arloeswr

Meira Evans
Meira Evans, tiwtor iaith, ger y ganolfan newydd

Bydd canolfan iaith yn cael ei hagor yn Llanrwst er cof am waith sylfaenydd mudiad Popeth Cymraeg.

Fe gafodd y mudiad a Chymru Ciwba eu sefydlu gan David Jones a gafodd ei fagu yn y dref.

Dywedodd ei deulu a'i ffrindiau y byddai'r ganolfan newydd ar safle caffi Yr Hen Danerdy yn "deyrnged addas".

Bu farw David, cyn-Faer Dinbych, o ganser y llynedd yn 66 oed.

Mae canolfan iaith Popeth Cymraeg arall yn Ninbych wedi bod yn cynnal cyrsiau Cymraeg i oedolion ers 15 mlynedd.

America Ladin

Roedd David yn trefnu dawnsfeydd a gwyliau cerddoriaeth er mwyn creu cysylltiadau rhwng Cymru ac America Ladin.

Dywedodd cadeirydd y ganolfan newydd, Dyfrig Berry: "Popeth Cymraeg oedd gweledigaeth David.

"Fo oedd yn gyfrifol am gamau cynta sefydlu'r ganolfan iaith yn Llanrwst ... mae angen canolfan iaith yn Nyffryn Conwy."

Y bwriad yw rhoi rhannau o'r caffi ar osod pan fydd y ganolfan yn cael ei hagor yn yr hydref.

'Ymroddedig'

Mae Popeth Cymraeg, sy'n cael ei ariannu gan gynllun Cymraeg i Oedolion Llywodraeth y Cynulliad, yn gobeithio y bydd eu rhwydwaith yn datblygu.

Dywedodd gwraig Mr Jones, Vera, ei bod hi "wrth ei bodd."

"Roedd David yn ymroddedig ac yn angerddol am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.

"Heb unrhyw amheuaeth, mae angen canolfan iaith yn Llanrwst ac mae llawer o ddysgwyr Cymraeg yr ardal yn edrych ymlaen at y ganolfan newydd."

Fe fyddai'r ganolfan yn "deyrnged addas," meddai.

'Grym'

Dywedodd tiwtor-drefnydd Popeth Cymraeg Conwy, Howard Edwards: "Roedd yn ddyn arbennig.

"Roedd o bob amser yn creu argraff ar y bobl yr oedd yn cyfarfod â nhw.

"Fo oedd y grym tu ôl i'r cynllun i sefydlu'r ganolfan iaith yn Ninbych, ac fe fydd sefydlu canolfan iaith yn ei fro enedigol yn rhodd arbennig i ŵr caredig a hynaws."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Gobaith am ganolfan iaith
23 Rhag 08 |  Newyddion
Gwersi Cymraeg i fewnfudwyr
08 Ebr 03 |  Newyddion
Dysgwr yn gwrthod talu ffi uwch
25 Medi 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific