Cafodd y wefan ei lansio ar Fai 15
|
Mae gwefan newyddion Golwg360 yn "embaras i Lywodraeth y Cynulliad a phawb arall sy'n ymwneud â hi," meddai Aelod Cynulliad. Dywedodd Alun Cairns, aelod Pwyllgor Diwylliant y cynulliad, ei fod yn bwriadu codi'r mater â'r Gweinidog Diwylliant. Mae Golwg wedi dweud eu bod "wedi sefydlogi'r gwasanaeth" ac wedi ei gwneud yn glir o'r dechrau mai "cyfnod prawf oedd hwn". Honnodd Mr Cairns, AC Ceidwadol Canol De Cymru, ei fod yn poeni am drafferthion y gwasanaeth newydd gafodd ei lansio ar Fai 15. Mae'r safle wedi wynebu problemau technegol. Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi clustnodi £600,000 am fwy na thair blynedd fel bod modd datblygu gwasanaeth newyddion Cymraeg ar y we. Dywedodd Mr Cairns ei fod yn pryderu o gofio faint o arian cyhoeddus oedd wedi ei wario. Mae Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, wedi dweud eu bod wedi cydweithio â chwmnïau eraill i ddatblygu'r safle.
Dywed Alun Cairns fod y wefan yn "embaras i Lywodraeth y Cynulliad"
|
Cafodd meddalwedd ar gyfer y wefan ei datblygu gyda chefnogaeth cwmni Tinopolis yn Llanelli. Dywedodd cwmni Golwg a Tinopolis ar y cyd fod y cyfrifoldeb am "fanyldeb technegol" wedi ei drosglwyddo i gwmni arall. "Nid cwmni Tinopolis oedd wedi gwneud y gwaith datblygu," meddai'r datganiad. Gofynnwyd i'r cwmni arall am sylw ond hyd yn hyn dyw'r cwmni ddim wedi ymateb. Dywedodd datganiad Golwg a Tinopolis "nad oedd cyfarwyddiadau'r dogfennau gwreiddiol wedi eu dilyn ac, ers hynny, mae Tinopolis wedi bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda Golwg Newydd i adfer y sefyllfa. "Does dim o'r arian cyhoeddus wedi mynd i Tinopolis ac mae Golwg Newydd wedi cael y drwydded i ddefnyddio'r feddalwedd yn rhad ac am ddim. "Bellach mae Tinopolis wedi cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am y feddalwedd ac yn gorffen y gwaith cywiro yn rhad ac am ddim hefyd.
 |
'Dan ni wedi sefydlogi'r gwasanaeth newyddion - sef y peth canolog
Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg
|
Yn ôl Mr Iorwerth, problemau pythefnos yn ôl oedd y rhain. "Doedd neb wedi gallu rhagweld yr union broblem gododd gan fod honno wedi mynd yn waeth pan ddechreuodd pobl ddefnyddio'r safle yr un pryd," meddai. "'Dan ni wedi sefydlogi'r gwasanaeth newyddion - sef y peth canolog." Y Cyngor Llyfrau sy'n gweinyddu'r grant ar ran Llywodraeth y Cynulliad. Dywedodd llefarydd eu bod yn gwybod bod hwn yn gyfnod prawf. "Ond fe amharodd problemau technegol ar y cyfnod hwn. "Mae'r problemau wedi sefydlogi erbyn hyn ac fe gafwyd ymateb ffafriol i gynnwys y wefan."
|