Mae'r safle gerllaw canolfan gymunedol y pentref
|
Mae ymgyrch wedi cael ei sefydlu er mwyn ceisio atal hen safle gwastraff llechi rhag cael ei symud er mwyn datblygiad tai newydd yn Nyffryn Nantlle. Mae trigolion Talysarn yn honni bod y safle 3.7 erw o'r enw'r Hen Domen yn gartref i fywyd gwyllt, gan gynnwys llyffantod. Dywed y trigolion hefyd nad yw'r safle'n addas i godi tai arno. Mae Cyngor Gwynedd eisiau defnyddio'r safle llechi i greu tip arall. Mae'r mater yn fwy cymhleth oherwydd bod y protestwyr yn gwrthwynebu enw'r safle. Bywyd gwyllt Mae'r protestwyr yn dadlau bod yr enw Hen Domen yn profi bod prosiect tipio yn bodoli yno ar ddechrau'r 1970au, tra bod y cyngor yn rhoi'r enw Gloddfa Glai arno. "Rydyn ni'n mynd i golli darn pwysig o wyrddni," meddai cadeirydd Achubwch Gloddfa Glai, Alan Brotheridge. Dywedodd Mr Brotheridge fod pobl leol yn credu bod yr enw Gloddfa Glai yn cyfeirio at ddarn arall o dir yn y pentref, sydd eisoes yn cynnwys parc sglefrio a chae pêl-droed.
"Yr hyn sy'n waeth yw bod y cais cynllunio presennol yn golygu symud y llechi yn unig. "Does dim sicrwydd y bydd tai yn cael eu hadeiladu yno ar ôl hynny, a fedra i ddim gweld sut gallai fod yn gost effeithiol i wneud hynny beth bynnag." Dywedodd yr ymgyrchwraig, Carys Pritchard, ei bod hi'n gofidio y byddai'r llechi'n cael eu symud a'r safle'n cael ei adael yn wag. "Byddai bywyd gwyllt yn cael ei ddifetha ac fe fyddai'n erchyll," meddai. "Mae'r plant yn defnyddio'r ganolfan gymunedol a'r cae chwarae ar draws y ffordd o'r safle, yn enwedig yn ystod y gwyliau pan fo gweithgareddau yno bob dydd. "Rwy wedi mesur, ac fe fyddai'r fynedfa i'r safle ond yn 10 metr i ffwrdd o'r cae chwarae."
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol Nantlle a Thalysarn wedi lleisio eu pryderon am waredu'r llechi. "Yn bersonol, rwy'n credu y byddai'n biti pe baen nhw'n gwneud hyn, gan ei bod yn enghraifft dda o brosiect tirlun sydd wedi llwyddo," meddai Lynn Vaughan. "Mae 'na ddigon o bentyrrau eraill o lechi allai gael eu defnyddio.... Gwastraff llechi Mae Cyngor Gwynedd am ddefnyddio'r gwastraff llechi er mwyn capio'r hen safle gwastraff yng Nghilgwyn - sydd uwchben Talysarn. Dywedodd llefarydd y daw'r enw o'r ffaith fod y safle'n cynnwys llechi o hen weithfeydd y Gloddfa Glai. "Mae'r safle wedi cael ei neilltuo ar gyfer datblygiad tai ar y mapiau arfaethedig sydd wedi cael eu cyhoeddi gan gynllun datblygu unedig Gwynedd (fersiwn ddrafft o newidiadau arfaethedig 2008), sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad ac ymchwiliad cyhoeddus." Fyddai'r ffaith ei fod wedi cael ei atgyweirio eisoes ddim yn golygu ei bod yn "ystyriaeth gynllunio faterol" wrth symud y gwastraff, ychwanegodd. "Gan fod y safle wedi cael ei "neilltuo ar gyfer tai", byddai ychydig o ddeunydd yn cael ei symud beth bynnag, a dyma'r math cywir ar gyfer capio'r tip," meddai. Bydd cais yn cael ei ystyried gan gynghorwyr ar Fehefin 4, gydag argymhelliad i basio'r cais, yn ddibynnol ar amodau.
|