British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009, 16:49 GMT 17:49 UK
Gwrthod cynllun parc busnes

Sainsburys
Cafodd cais i godi archarchnad Sainsbury's ei wrthod

Mae cynghorwyr Wrecsam wedi gwrthod cais i godi parc busnes ac archfarchnad Sainsbury's yn Rhiwabon.

Bu aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio yn cyfarfod nos Lun i drafod y datblygiad gwerth £17 miliwn ar dir fferm ger ffordd yr A483.

Dywed y datblygwyr Liberty Properties eu bod yn ystyried eu cam nesa.

Yn ol y cwmni byddai'r cynllun yn creu hyd at 4,000 o swyddi.

Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod y cais.

Byddai'r cam cyntaf yn cynnwys 11 o unedau busnes ac archfarchnad Sainsbury's.

Roedden nhw hefyd eisiau adeiladu 13 o unedau busnes eraill yn ystod ail a thrydedd rhan o'r datblygiad.

'Bygythiad i fusnesau lleol'

Cafodd y cais ei wrthod gyda mwyafrif o un.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Marc Jones nad oedd y datblygwyr wedi profi bod angen parc yn yr ardal.

"Dwi ddim yn meddwl fod y datblygiad wedi profi bod gwir angen archfarchnad enfawr arall yn ardal Wrecsam," meddai.

"Pentref bach ydy Rhiwabon a bysa fo'n cael effaith fawr ar siopau sydd yma'n barod."

"Ein polisi yw datblygu o fewn setliad o fewn pentrefi a threfi ac felly doedd dim angen y datblygiad yma."

Dywedodd Bob Jones sy'n byw hanner milltir o'r pentref: "Dydy'r siop ddim yn mynd i wneud elw mewn pentref fatha Rhiwabon," meddai.

"Maen nhw'n son eu bod am godi adeilad 400,000 troedfedd sgwâr i roi gwaith i 3,500 o bobl - ond o ble mae'r holl bobl 'ma yn mynd i ddod? Bydd yn rhaid iddyn nhw ddod o du allan i'r ardal."

Er y byddai'r parc busnes yn creu swyddi fe ddywedodd y Cynghorydd Jones na fyddan nhw o ddiddordeb i weithwyr yn y diwydiannau trwm sydd wedi colli eu gwaith.

'Siomedig'

Roedd Richard Parry sy'n byw yn yr ardal yn anhapus fod y cais wedi cael ei wrthod.

"Gan fod 'na gymaint o bobl ogwmpas Rhiwabon a Llangollen a'r cylch, roeddem ni'n edrych ymlaen i gael archfarchnad yn y pentref yn hytrach nac ein bod yn gorfod mynd i Wrecsam i gael ein siopa wythnosol."

Dywedodd Emyr Williams o gwmni Liberty Property Ltd eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad.

"Mae 80% o'r trigolion eisiau Sainsbury's ac eisiau gwaith yn Rhiwabon, a dyma beth fydd ein datblygiad yn ei wneud.

"Dydym ni ddim am roi'r orau ac rydym angen amser i feddwl beth i'w wneud nesa."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
JCB: Mwy o ddiswyddiadau
30 Ebr 09 |  Newyddion
Colli swyddi yn ffatri Kellogg's
06 Ebr 09 |  Newyddion
Colli swyddi blwyddyn wedi achub busnes
25 Maw 09 |  Newyddion
Airbus: Colli 250 o swyddi
23 Maw 09 |  Newyddion
Ffatri i gau gan golli 150 swydd
21 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific