'Rhaid i bawb fod yn wyliadwrus ...'
|
Mae'r awdurdodau wedi cadarnhau bod yr achos cynta o'r ffliw moch yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae dyn 31 oed o ardal Caerffili yn gwella gartre a chafodd aelodau ei deulu feddyginiaeth wrth-feirws. Mae'n bosib iddo ddal y ffliw tra oedd ar ei wyliau yn yr Unol Daleithiau. Hyd yn hyn mae 97 o bobl wedi cael eu hymchwilio a saith yn cael eu hymchwilio o hyd. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: "Rydyn ni wedi egluro o'r dechrau y byddai achosion yng Nghymru a rhaid i bawb fod yn wyliadwrus ... "Mae'n debygol y bydd 'na fwy o achosion ac rydyn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos iawn. "Er bod nifer achosion yn isel iawn, ein nod ni yw dysgu cymaint â phosib am y feirws ac arafu'r lledu." 'Camau cadarn' Dywedodd fod y cyngor i'r cyhoedd yr un fath o hyd. "Dylai pobl ddilyn camau glendid da er mwyn atal y ffliw rhag lledu - gan ddefnyddio hances wrth disian, taflu unrhyw hancesi sydd wedi cael eu defnyddio lle gallai germau aros a golchi dwylo'n aml neu eu glanhau â hylif glanhau. "Er ei bod hi'n naturiol i bobl bryderu, hoffen ni sicrhau'r cyhoedd ein bod ni wedi bod wedi paratoi ers nifer o flynyddoedd ac mae gennym ni gamau cadarn yn eu lle." Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Arsylwi Heintiau Trosglwyddadwy y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Roland Salmon: "Rydyn ni'n parhau i gynghori unrhyw un â symtomau tebyg i'r ffliw ac sydd wedi teithio i un o'r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio i aros gartref a ffonio'r meddyg teulu neu'r Gwasanaeth Iechyd Uniongyrchol ar 0845 46 47."
|