Mae'r clinig yn cynnig y brechiad sengl am £45
|
Mae cwmni preifat wedi dweud bod bron 50 o rieni a phlant yn teithio o Lanelli ac Abertawe ddydd Sadwrn i'w clinig yng Nghaerwrangon i gael brechiad unigol yn erbyn y frech goch. Nid yw cwmni Desumo, sy'n codi £45 y brechiad, wedi llwyddo hyd yn hyn i gael trwydded i wneud y brechiadau'n lleol. Ond mae Prif Swyddogol Meddygol Cymru wedi annog rhieni i ddefnyddio brechiad MMR yn lle'r brechiad unigol. Dywedodd yr awdurdodau taw'r gyfres o achosion ddiweddara yw'r "waetha" ers i frechiad MMR gael ei gyflwyno fwy na 20 mlynedd yn ôl. Mae nifer yr achosion wedi codi i 246 yng Nghymru - a mwy na 30 wedi cael triniaeth yn yr ysbyty. Mae 179 o achosion yn y canolbarth a'r gorllewin, 55 yn y gogledd a saith yn y de-ddwyrain. Rhaid i Desumo gael caniatâd oddi wrth Arolygydd Iechyd Cymru cyn y gall gynnig brechiadau unigol yn lleol. Poeni Dywedodd Prif Swyddog Iechyd Cymru, Dr Tony Jewell, eu bod yn poeni am effeithlonrwydd brechiadau unigol. "Mae'r brechiad MMR yn saff ac yn effeithiol iawn ac wedi cael ei ddefnyddio ar hyd a lled Ewrop a Gogledd America ers dros 20 mlynedd. "Hwn yw'r brechiad yr ydym ni'n ei gymeradwyo," meddai. "Rydym yn annog pobl i siarad gyda'u meddyg teulu a'u hymwelwyr iechyd am y brechiad MMR yn ogystal ag argymell rhieni i frechu eu plant, hyd yn oed plant hŷn na chafodd eu brechiad.
Dylai rhieni roi gwybod i feddyg teulu ar unwaith os yw eu plant yn dangos symptomau
|
"Mae'r brechiadau MMR ar gael am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd ac rydym yn annog rhieni i drefnu bod eu plant yn cael eu brechu ar unwaith. "Byddai hyn yn well na'u bod nhw i bob pwrpas yn gwastraffu eu harian ar frechiadau sengl." Mae rhywun sy'n diodde o'r frech goch yn dangos symptomau o wres, llygaid coch ac annwyd. Ymhen ychydig fe fydd smotiau coch yn dechrau ymddangos ar yr wyneb ac yna'n lledu ar hyd y corff.
|