Prif Swyddog Meddygol: 'Rhaid i bawb fod yn wyliadwrus ...'
|
Mae'r achos tebygol o'r ffliw moch wedi cael ei gofnodi yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae'r awdurdodau'n ymchwilio i achos dyn 31 oed o ardal Caerffili. Mae'n bosib iddo ddal y ffliw tra oedd ar ei wyliau yn yr Unol Daleithiau. Fe gafodd driniaeth gartref ac mae disgwyl cadarnhad pan fydd profion pellach yn cael eu cynnal ddydd Llun. Cafodd aelodau ei deulu feddyginiaeth wrth-feirws. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: "Rydyn ni wedi egluro o'r dechrau y byddai achosion yng Nghymru a rhaid i bawb fod yn wyliadwrus ... "Mae'n debygol y bydd 'na fwy o achosion ac rydyn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos iawn. 'Camau cadarn' "Mae ein cyngor i'r cyhoedd yn aros yr un fath. Dylai pobl ddilyn camau glendid da er mwyn atal y ffliw rhag lledu - gan ddefnyddio hances wrth disian, taflu unrhyw hancesi sydd wedi cael eu defnyddio lle gallai germau aros a golchi dwylo'n aml neu eu glanhau â hylif glanhau. "Er ei bod hi'n naturiol i bobl bryderu, hoffen ni sicrhau'r cyhoedd ein bod ni wedi bod wedi paratoi ers nifer o flynyddoedd ac mae gennym ni gamau cadarn yn eu lle." Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Arsylwi Heintiau Trosglwyddadwy y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Roland Salmon: "Rydyn ni'n parhau i gynghori unrhyw un â symtomau tebyg i'r ffliw ac sydd wedi teithio i un o'r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio i aros artref a ffonio'r meddyg teulu neu'r Gwasanaeth Iechyd Uniongyrchol ar 0845 46 47.
|