British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009, 07:37 GMT 08:37 UK
Cais i greu ffatri biomas

former Peboc factory site
Mae'r cwmni am ddatblygu safle blaenorol ffatri Peboc

Mae cwmni Gwyddelig eisiau cael caniatâd i godi ffatri biomas pren a fferm wynt yn Llangefni ar Ynys Môn.

Yn ôl EcoPellets Ltd, byddai'r ffatri yn gallu cynhyrchu digon o drydan i 50,000 o gartrefi.

Bwriad y cwmni yw codi'r adeilad ar hen safle ffatri Peboc yn y dref.

Dywedodd Clive McGregor, arweinydd y cyngor sir, bod cyfleoedd gwaith i'w croesawu.

Ond mae angen caniatâd cynllunio ar y ffatri yn y lle cyntaf.

Yn ôl y cwmni o Sir Cork, fe fydd tua 100 o swyddi yn cael eu creu dros gyfnod o dair blynedd o ganlyniad i'r gwaith adeiladu.

Yn y tymor-hir fe fydd 35 swydd llawn-amser yn cael eu creu.

Croeso gofalus

"O ran safonau egni adnewyddadwy, mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn darparu pŵer gwyrdd i 50,000 o gartrefi," meddai cyfarwyddwr EcoPellets Ltd, Paul Kellet.

Dywed y cwmni eu bod yn gobeithio dechrau ar y gwaith adeiladu ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Mae arweinydd y cyngor wedi estyn croeso gofalus i'r cynllun.

"O safbwynt ein gobaith i droi'n 'ynys egni', rydy'n ni'n croesawu'r cynllun," meddai.

"Ond mae yna nifer o bethau sydd eisiau gwneud yn y lle cyntaf, fel ennill caniatâd cynllunio, cyn gallwn ni edrych ymlaen at y swyddi."

Barn yr arbenigwr egni gwyrdd Dr Tom Pritchard oedd bod y cynllun yn un diddorol a gallai fod yn ddefnyddiol.

"Mi fyddai yn lleihau ein hangen i losgi tanwydd ffosil," meddai.

"Mae hefyd yn cyfuno dau beth, llosgi'r peli pren a'r tyrbinau gwynt - sy'n gallu creu cryn dipyn o drydan i bobl lleol," ychwanegodd.



HEFYD
Caniatad i godi 150 o dai
19 Meh 08 |  Newyddion
Tanwydd 'glân' yn creu swyddi?
25 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific