British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Mai 2009, 12:30 GMT 13:30 UK
Cyfadde gwyrdroi cwrs cyfiawnder

Robert Gaunt
Bu farw Robert Gaunt yn yr ysbyty

Mae gŵr busnes 61 oed wedi cyfadde iddo atgyweirio ei gar ar ôl bod mewn damwain farwol er mwyn bwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bu farw bachgen naw oed yn y ddamwain yn Erbistock ger Wrecsam ym mis Mawrth.

Roedd Robert Gaunt yn dod o ardal Owrtyn, Wrecsam.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae David Lunn o Wrecsam wedi cyfaddef iddo atgyweirio'r car yn fwriadol.

Cafodd y bachgen ei daro gan ddau gar ar Fawrth 19.

Bu farw yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, ar ôl cael ei symud o Ysbyty Wrecsam Maelor.

Bonet

Yn y llys fe gyfaddefodd Lunn iddo fwriadu gwyrdroi achos cyfiawnder drwy drefnu bod ei gar Jaguar yn cael ei atgyweirio rhwng dyddiad y ddamwain a Mawrth 23.

Clywodd y llys ei fod wedi prynu bonet car newydd a chael gwared ar ran o gar drwy ei llosgi.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru heb yswiriant a thorri amodau ei drwydded gyrru.

Dyw e ddim wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth Robert oherwydd y ffordd yr oedd yn gyrru.

Fe gafodd yr achos ei ohirio gan y barnwr John Rodgers tan Fehefin 19 er mwyn i adroddiadau gael eu paratoi.

Dywedodd y barnwr y byddai'n ystyried y ffaith ei fod wedi pledio'n euog.

Cafodd Lunn ei gadw yn y ddalfa.



HEFYD
Teyrngedau i fachgen fu farw
23 Maw 09 |  Newyddion
Marwolaeth: Arestio dau
22 Maw 09 |  Newyddion
Damwain: Bachgen yn marw
21 Maw 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific