Yr arwyddion yn 'ddirgelwch'
|
Am gyfnod roedd arwyddion ffordd ger gwaith atgyweirio yn Sir Gaergrawnt yn Gymraeg a Saesneg. Cafodd pedwar o arwyddion eu gosod ar y ffordd yn rhybuddio gyrwyr fod angen arafu ar Longthorpe Parkway yn Peterborough. Mae nifer o yrwyr wedi ffonio'r cyngor lleol a chafodd nifer o luniau eu tynnu. Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r arwyddion wedi eu rhoi yno ond dydyn ni ddim yn siŵr sut na pham. "Mae'n dipyn o ddirgelwch." 'Jôc' Dywedodd mai contractwyr oedd yn gweithio yno a bod y ffordd wedi ei chau dros nos. "Pan ail-agorodd hi, doedd dim cyfyngiadau cyflymdra mewn grym. Felly, doedd dim angen arwyddion. "Dydyn ni ddim yn gwybod pam y byddai arwyddion cyfyngiadau cyflymdra'n cael eu gosod yno." Ychwanegodd y llefarydd y gallai'r cyfan fod wedi bod yn jôc. Erbyn hyn mae'r arwyddion wedi cael eu tynnu i lawr.
|