British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Mai 2009, 07:09 GMT 08:09 UK
Baneri newydd i Batagonia

y Ddraig Goch
Bydd y baneri yn cael eu cyflwyno mewn seremoni ddydd Iau

Bydd baner y Ddraig Goch yn parhau i chwifio uwchben y gymuned Gymreig ym Mhatagonia ar ôl rhodd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Cafodd baneri gwreiddiol y gymuned Gymreig yn Nhrefelin eu dwyn ar ddiwedd yr eisteddfod leol ym mis Ebrill.

Ond bydd pum baner newydd yn cael eu cyflwyno i drigolion Trefelin mewn seremoni ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddydd Iau.

Mae tua 12,000 o bobl yn byw yn Nhrefelin, gyda tua 70% o'r trigolion yn olrhain tras eu teuluoedd yn ôl i Gymru.

'Arddangos tras Gymreig'

Fe ddywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas fod yr Eisteddfod yr Urdd yn gyfle delfrydol i roi'r baneri i'r gymuned dros fôr yr Iwerydd.

"Rydym o hyd yn ystyried ein cefndryd ym Mhatagonia gydag anwyldeb mawr," meddai.

"Maent yn sicrhau bod rhan fechan o Gymru yn bodoli miloedd o filltiroedd i ffwrdd ar ochr arall y byd.

Mae'r anrheg ... yn dangos yn glir y cyfeillgarwch sy'n bodoli rhwng tref Gymreig Trefelin ym Mhatagonia a phobl Cymru.
Jeremy Wood

"Felly, wrth i ni ddathlu Eisteddfod yr Urdd yma ym Mae Caerdydd, rydym yn falch o gynnig yr arwydd bach hwn i'w galluogi i ddathlu eu heisteddfodau yn y dyfodol ac arddangos eu tras Gymreig gyda balchder."

Fe fydd y baneri newydd yn cael eu cyflwyno i Jeremy Wood o'r gymuned Gymreig yn Nhrefelin gan y Llywydd mewn seremoni arbennig yn Siambr y Senedd ym Mae Caerdydd fore dydd Iau.

Gan mai dyma yw ymweliad cyntaf Mr Wood yn y Senedd fe fydd yn cael ei dywys o gwmpas yr adeiladau a'r Eisteddfod yr Urdd yn ystod y dydd.

'Cyfeillgarwch'

Wrth ymateb fe ddywedodd Mr Wood ei bod hi'n 'anrhydedd' derbyn y baneri a'u bod yn ddiolchgar iawn am y rhodd.

"Roedd y gymuned yn Nhrefelin wrth eu bodd pan glywodd fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymryd cymaint o ddiddordeb yn y dref fach hon.

"Mae'n anrhydedd mawr i ni gyd, ac rydym yn ddiolchgar i dderbyn yr anrheg hon o fflagiau sy'n dangos yn glir y cyfeillgarwch sy'n bodoli rhwng tref Gymreig Trefelin ym Mhatagonia a phobl Cymru."

Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal am 11am fore dydd Iau.



HEFYD
Patagonia: Arwyddo siarter
20 Mai 09 |  Newyddion
Patagonia: Dwylo dros y mr
01 Awst 07 |  Newyddion
Pecynnau addysg i Batagonia
28 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific