British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Mai 2009, 14:15 GMT 15:15 UK
Medal Ddrama i Gruffudd

Gruffudd Eifion Owen
Mae Gruffudd yn cwblhau traethawd MPhil ar ddramu'r diweddar Wil Sam Jones.

Gruffudd Eifion Owen o Aberystwyth yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2009.

Fe gipiodd y wobr am ei ddrama o'r enw 'Nialwch'.

Dyma yw'r tro cyntaf iddo gystadlu ar y Fedal Ddrama a hon yw ei ddrama gyntaf.

Fe ddaeth Elis Dafydd o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli yn ail a Ffion Evans o Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd yn drydydd.

Bardd

Brodor o Bwllheli yw Gruffudd ac mae bellach yn byw yn Aberystwyth.

Fe gafodd ei addysg yn ysgol uwchradd Glan y Môr ac yna astudio ei lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

Yn 2007 fe gafodd radd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth , ac mae ar hyn o bryd yn cwblhau traethawd MPhil ar ddramâu'r diweddar Wil Sam Jones.

Mae hefyd yn gweithio fel cyfieithydd i Urdd Myfyrwyr Aberystwyth.

Mae Gruffudd yn fardd brwd ac yn aelod o dîm Y Cwps ar raglen 'Talwrn y Beirdd.'

Y llynedd fe enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol a daeth yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae ei ddiddordebau yn cynnwys canu corawl, mynydda, gwleidyddiaeth a jyglo.

Fe ddywedodd y beirniaid Manon Steffan Ross a Bethan Jones fod y gystadleuaeth wedi codi eu calonnau a'u gobeithion ar gyfer dyfodol y theatr Gymraeg.

Fe gafodd y ddrama fuddugol ei disgrifio gan y beirniaid fel un sy'n "disgleirio."

Rhoddwyd y fedal gan Teledu Telesgop.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific