Dylai rhieni sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechu
|
Gydag achosion o'r frech goch yn cynyddu yng Nghymru mae 'na rybudd y dylai rhieni frechu eu plant. Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn rhybuddio y bydd y firws yn achosi marwolaethau. Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos fod nifer yr achosion o'r frech goch yng Nghymru eleni wedi codi i dros 200. Mae chwistrellu plant yn golygu eu bod 90% yn llai tebygol o gael y frech goch. Ond yn sgil pryderon ddaeth i'r amlwg dros 10 mlynedd yn ôl - sydd bellach wedi eu profi i fod yn gwbl ddi-sail - mae nifer o blant heb eu brechu. "Does 'na ddim sail i'r honiadau yna, hanes ydi hyn," meddai Richard Roberts o'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus. 'Braw' "Ond mae 'na grwp o blant sydd wedi colli allan. "Maen nhw yn y dosbarth olaf ysgol gynradd ac yn yr ysgol uwchradd. "Unai mae'r rhieni wedi penderfynu peidio brechu oherwydd braw neu wedi gohirio ac yn wedi anghofio. "Y plant yma su'n dal y frech goch ar hyn o bryd."
Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos mai tua 82% o blant pum mlwydd oed sydd wedi derbyn y brechiad llawn o'r MMR. Mae hyn yn dipyn yn is na'r targed o 95% sydd ei angen i sicrhau nad ydi'r firws yn lledu. Mam i dri o blant a meddyg ar Ynys Môn ydi Catrin Elis Williams. Cafodd ei phlant y brechiad MMR. Dywed bod 'na ddyletswydd ar rieni i frechu eu plant. "Dydi hi ddim yn deg i riant ddweud mai "fy mhenderfyniad i ydi hyn, fy mhlentyn i yn unig sy'n cael ei effeithio". "Dydi hyn ddim yn wir. "Mae o mor bwysig cadw hyn mewn cof. "Plant sy'n diodde, nid yn unig yn y tymor byr ond yn y tymor hir." Cwmni preifat Ychwanegodd bod 'na gymhlethdodau i'r frech goch o fewn ychydig flynyddoedd, rhyw wyth mlynedd a gall cymhlethdodau fod i'r ymennydd yn y tymor hir hefyd. Yr wythnos diwetha cafodd pedwar plentyn mewn meithrinfa ym Mhorth Tywyn eu cludo i'r ysbyty hefo'r frech goch. Ond mae 'na hefyd 53 o achosion wedi bod yn ardal Llandudno, sy'n gysylltiedig â dwy ysgol yn yr ardal. Ond yng nghanolbarth a gorllewin Cymru mae'r sefyllfa ar ei gwaethaf. Mae hi wedi dod i'r amlwg y bydd clinic preifat yn cynnig brechiadau unigol dros yr wythnosau nesaf ar gost o £50. Mae hyn wedi cynddeiriogi gwleidyddion a meddygon. "Dwi'n poeni bod y cwmni yma yn cymryd mantais o'r ffaith bod pobl yn ofnus," meddai Aelod Cynulliad Plaid Cymru Helen Mary Jones. "Does dim angen i neb fynd at y cwmni. "Fe allen nhw ffonio'r meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru, a chael y meddyginiaethau." Yn ôl gwefan y cwmni, yr oll maen nhw yn ei wneud ydi cynnig dewis i rieni. Ond mae'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus yn pwysleisio y dylai rhieni sicrhau fod eu plant wedi derbyn yr MMR.
|