British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Mai 2009, 16:31 GMT 17:31 UK
Y frech goch: Penaethiaid yn poeni

Brechu
Swyddogion: Dylai rhieni frechu eu plant gynted â phosib

Dywedodd penaethiaid eu bod yn ofni y gallai rhywun farw wrth i Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymchwilio i fwy na 200 o achosion o'r frech goch.

Mae rhai'n cael triniaeth yn unedau gofal dwys ac mae 'na bryder mai hwn yw un o'r achosion gwaethaf yng Nghymru ers blynyddoedd.

Dywedodd swyddogion y dylai rhieni drefnu bod eu plant yn cael eu brechu ar unwaith.

Mae Dr Marion Lyons o'r gwasanaeth wedi dweud bod "unrhyw blentyn sy heb gael ei frechu eto mewn perygl o gael y clefyd."

Yn y canolbarth a'r gorllewin mae yna 147 o achosion - a 23 o bobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae 89 o achosion yn yr ardal yn gysylltiedig â phedair cyfres o achosion yn Ne Sir Benfro, Llanelli, Porth Tywyn a Chastell-nedd Port Talbot tra bod gweddill yr achosion yn rhai unigol mewn saith bwrdeistref.

Yn Llandudno fodd bynnag mae 53 o achosion a dau yn yr ysbyty oherwydd cyfres o achosion yn Ysgol Ffordd Dyffryn ac Ysgol Uwchradd John Bright.

Mae saith o achosion yn Ne-Ddwyrain Cymru wedi eu nodi.

'Angen brechu'

"Gan fod cymaint o achosion mewn cymunedau, mae unrhyw blentyn sydd heb gael ei frechu mewn perygl o ddal y frech goch ...," meddai Dr Lyons.

"Felly dylai rhieni drefnu bod eu plant yn cael eu brechu ar unwaith.

"Mae pigiad yr MMR yn saff ac yn amddiffyn plant rhag clefyd difrifol.

"Ac mae 'na dystiolaeth gref fod un o bob 500 o blant sy'n dal y frech goch ledled y byd yn marw a bod un o bob 500 arall yn cael niwed difrifol i'r ymennydd," meddai.


Plant rhwng un a phedair oed a disgyblion ysgol heb gael eu brechu sy fwyaf tebygol o ddal yr afiechyd

Dr Marion Lyons, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru

"Gan fod 26 o bobl yn yr ysbyty a nifer ohonyn nhw mewn unedau gofal dwys, rydym ni'n pryderu mai ychydig o amser sydd yna nes y bydd rhywun yn marw neu'n cael anafiadau parhaol.

"Plant rhwng un a phedair oed a disgyblion ysgol heb gael eu brechu sy fwyaf tebygol o ddal yr afiechyd.

"Er bod yna rai achosion ymysg oedolion, anaml y mae pobl sydd wedi cael eu geni cyn 1970 sy'n dal y frech goch.

"Dyw 99% o'r plant sy'n cael y ddau frechiad o MMR - sydd hefyd yn amddiffyn pobl rhag cael rwbela a chlwy'r pennau - ddim yn dioddef o'r frech goch yn ddiweddarach.

Symptomau

Yn ôl y gwasaneth, bydd pobl gyda'r frech goch yn dangos symptomau o wres, llygaid coch ac annwyd.

Ymhen ychydig fe fydd smotiau coch yn dechrau ymddangos ar yr wyneb ac yna'n lledu ar hyd y corff.

Dywedodd Dr Lyons: "Dylai rhieni gysylltu'n syth gyda'r meddyg teulu os ydyn nhw'n credu fod eu plant yn dioddef o'r frech goch.

"Dylai plant sy'n ddioddef o'r salwch aros i ffwrdd o'r ysgol am o leiaf bum diwrnod ar ôl i'r smotiau ymddangos."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Y frech goch: 'Brawychus'
19 Mai 09 |  Newyddion
Y frech goch: Atgoffa am frechiad
07 Hyd 08 |  Newyddion
Brech goch: 'Poeni'n fawr'
12 Mai 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific