British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Mai 2009, 16:57 GMT 17:57 UK
Twm yw Bardd Plant Cymru

Twm Morys yw Bardd Plant Cymru
Twm Morys yw Bardd Plant newydd Cymru

Twm Morys yw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2009-10, yn lle deilydd presennol y rôl, Ifor ap Glyn.

Fe gafodd y newyddion ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd brynhawn ddydd Mawrth.

Mae'r prifardd Twm Morys yn adnabyddus fel bardd, canwr darlledwr a cholofnydd.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003 am ei awdl ar y testun 'Drysau'.

Mae deilydd y rôl yn cael ei ddewis ar y cyd rhwng yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a'r Academi.

Mae Twm yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd, Y Tywysogion.

Meddai: "Ers blynyddoedd bellach, rwyf yn ymwneud ag ysgolion, weithiau efo criw o feirdd o gyffelyb fryd, i sôn am farddoniaeth ac i greu barddoniaeth efo'r plant.

Gwaith mwya' gwerthfawr [beirdd] ydi rhoi hyder i'r plant - hyder i fynegi eu hunain a hyder i berthyn.
Twm Morys, Bardd Plant Cymru

"Ond rwyf wedi sylweddoli ers sbel mai'r gwaith mwya' gwerthfawr yr ydan ni'n ei wneud ydi rhoi hyder i'r plant.

"Hyder i fynegi eu hunain, a hyder i berthyn.

"Gwneud yr iaith yn bêl rydan ni, ac wrth chwarae efo honno, mae'r plant [heb yn wybod iddyn nhw] yn dysgu geirfa a gramadeg, hanes eu plwy nhw, hanes Cymru, hynt a helynt y byd!"

Mae Twm hefyd yn adnabyddus fel canwr gyda'r grŵp 'Bob Delyn a'r Ebillion'.

Twm yw'r diweddara' ymhlith rhestr faith o feirdd sydd wedi derbyn yr anrhydedd.

Yn y gorffennol, bu Caryl Parry-Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac a Myrddin ap Dafydd yn ddeilydd y teitl.



HEFYD
Ifor yw Bardd Plant Cymru
27 Mai 08 |  Newyddion
Caryl yn Fardd Plant Cymru
29 Mai 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific