British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Mai 2009, 06:01 GMT 07:01 UK
Prynu safle: 'Denu busnesau'

caws
Daw'r newyddion wedi gwaith ymchwil manwl gan Weithgor Dyffryn Aeron

Mae cwmni lleol wedi cyhoeddi ei fod wedi prynu safle ffatri gaws gaeodd ym mis Mawrth 2007.

Nod cwmni D Jenkins a'i Fab yw rhannu'r safle yn Felinfach ger Llambed yn unedau llai a chydweithio â Gweithgor Dyffryn Aeron i ddenu busnesau i'r safle.

Ers misoedd mae nifer o gwmnïau wedi dangos diddordeb mewn adleoli a datblygu ar y safle.

Mae pobol leol yn gobeithio y bydd yr hen ffatri gaws yn ganolfan gynhyrchu yn y dyfodol agos.

Daw'r newyddion wedi gwaith ymchwil Gweithgor Dyffryn Aeron i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer safle Caws Dyffryn Aeron a thrafodaethau â nifer o gwmnïau â diddordeb mewn ehangu yn yr ardal.

'Cyffrous'

Yn eu tro mae Elin Jones (y Gweinidog Cefn Gwlad), ac Ieuan Wyn Jones (Dirprwy Brif Weinidog Cymru) wedi ymweld â Dyffryn Aeron i glywed a chefnogi syniadau'r gweithgor.

Dywedodd Huw McConochie, cadeirydd y gweithgor: "Ry'n ni'n edrych ymlaen at gael cyd-weithio gyda chwmni Donald Jenkins a'i Fab i ddatblygu gwaith ar y safle.

"Mae Brian Jenkins yn aelod o'r gweithgor ac mae ganddo ef a chyfarwyddwyr y gweithgor syniadau cyffrous am sut y gallwn ni symud ymlaen gyda'n gilydd a helpu ein gilydd i greu swyddi newydd yn yr ardal."

'Cam mawr'

Yn ôl y Cynghorydd Owen Llywelyn, un o arweinwyr y gweithgor: "Rhaid talu teyrnged i'r gymdogaeth leol yn wyneb y colli swyddi yn 2006 gyda chau Dairygold, ac yn 2007 gyda chau Caws Dyffryn Aeron.

"Yn lle cilio fe wnaeth pobl yr ardal ymateb i'r her drwy weithredu'n gadarnhaol.

"Y gymdogaeth ei hun sydd wedi arwain ar y mater hwn, ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau y bydd safle Caws Dyffryn Aeron yn cyflogi pobl unwaith eto.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn gam mawr ymlaen i weld swyddi tymor hir o safon uchel ar y safle, perchnogaeth leol dros rhai o'n hasedau pwysicaf, a rheolaeth leol dros ein dyfodol."

'Arweiniad'

Dywedodd Euros Lewis, un o arweinwyr y gweithgor: "Rwy'n ffyddiog ein bod yn gweld partneriaeth yn datblygu yn Nyffryn Aeron all fod yn batrwm i ardaloedd Cymraeg eraill.

"Yn yr achos hwn mae'r gweithgor wedi cynnig arweiniad drwy esbonio wrth y llywodraeth beth y gallan nhw ei wneud i'n helpu ..."

Fe wnaeth 44 o weithwyr y ffatri yn Felinfach golli eu gwaith yn 2007.

Dywedodd y perchnogion bryd hynny, Lactalis McLelland, mai'r rheswm oedd colledion cynyddol.

Collodd 115 eu gwaith pan gaeodd ffatri brosesu caws Dairygold yn Felinfach ym mis Ebrill 2006.



HEFYD
Rhybudd am grant o £663,000
19 Chwef 07 |  Newyddion
'Oedi' cwmni caws o dan y lach
02 Chwef 07 |  Newyddion
Ffatri gaws: Camau cyfreithiol?
25 Medi 06 |  Newyddion
Ffatri gaws: Poeni am daliadau
25 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific