British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 24 Mai 2009, 12:44 GMT 13:44 UK
Arian i warchod y gwenyn

Gwenyn
Fe fydd yr arian yn helpu i ddysgu mwy am gadw gwenyn

Cafodd bron i £500,000 ei gyhoeddi fel cymhorthdal i helpu i warchod gwenyn gan Lywodraeth y Cynulliad.

Fe fydd yr arian yn cael ei roi i'r Uned Gwenyn Cenedlaethol sy'n gweithio i warchod gwenyn yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones, y bydd £486,000 ar gael i geisio canfod ateb i'r broblem o ddirywiad yn nifer y gwenwyn ac i gadw stoc iach.

Dywedodd Cymdeithas Gwenynwyr Prydain bod nifer y gwenyn wedi gostwng 30% rhwng 2007 a 2008.

Yn ôl Ms Jones fe fydd yr arian ar gael i helpu i lenwi'r gagendor mewn gwybodaeth am gadw gwenyn.

"Mae'r gwenyn yn cyfrannu yn uniongyrchol i gynnyrch bwyd lleol sy'n allweddol ar gyfer ffermio amgylcheddol cynaliadwy sy'n cael ei hybu yng Nghymru.

"Does dim modd tanbrisio'r pwysigrwydd i'r diwydiant amaeth," meddai.

Dywedodd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn helpu'r uned yn ariannol a'i fod bron ddwywaith y swm llynedd.

Mae'r uned yn gobeithio gwarchod y gwenyn drwy archwiliadau, ymchwil a hyfforddiant i'r rhai sy'n cadw'r gwenyn.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi ym mis Ebrill y bydd hyd at £10 miliwn o gymhorthdal ar gael i ymchwilio i'r dirywiad mewn gwenyn a phili palas.

Bwriad cynllun "Gwenyn iach" gafodd ei lansio ym mis Mawrth gan Defra a Llywodraeth y Cynulliad oedd sicrhau poblogaeth iach o wenyn.



HEFYD
AS yn galw am fridio gwenyn
03 Ebr 09 |  Newyddion
Prinder Gwenyn: Effaith ar afalau
04 Hyd 08 |  Newyddion
Annog mwy i gadw gwenyn
03 Mai 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific