Disgyblion yn Tokyo yn cael hylif i lanhau dwylo
|
Mae 90 o bobl yng Nghymru wedi bod o dan archwiliad ar gyfer ffliw moch. Cafodd y ffliw ei ddiystyru mewn 85 o'r achosion, gan adael pump o dan archwiliad o hyd. Mae'r pump yn arddangos, neu wedi arddangos, symptomau ysgafn. Roedd y pump sydd o dan archwiliad yn holliach pan ddaethan nhw i sylw'r awdurdodau, ond yn adrodd symptomau tebyg i ffliw ar ôl iddyn nhw deithio i Fecsico. Does 'na ddim un achos pendant o'r ffliw yng Nghymru. Mae profion gwaed yn cael eu cynnal ar yr unigolion i weld os oedden nhw wedi cael y ffliw ac i helpu Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ddeall patrwm yr afiechyd o'r gorffennol. Efallai nad ffliw moch oedd achos eu symptomau ac fe gymer rhai wythnosau i ganlyniadau'r archwiliadau ddwyn ffrwyth. Erbyn hyn mae 184 o achosion pendant yn y DU - 13 yn Yr Alban, 170 yn Lloegr ac un yng Ngogledd Iwerddon - pob un yn ymateb yn dda i driniaeth. Gwyliadwrus Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: "Er nad oes yna'r un achos wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru hyd yma, rydyn ni'n disgwyl y bydd 'na rai achosion yn cael eu cadarnhau maes o law". Rhybuddiodd y dylai pobl fod yn wyliadwrus rhag i'r ffliw ledu o Loegr a'r Alban. "Mae'n briodol ein bod ni'n paratoi ar gyfer y posibilrwydd o bandemig byd-eang, ac mae trefniadau'r DU yn parhau i sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa i allu ymdrin â'r afiechyd yma pe bai'n lledu. "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i drafod â'r Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, cydweithwyr yn y gwledydd eraill yn y DU ac yn rhyngwladol i fonitro'r sefyllfa'n agos." Dywedodd Dr Roland Salmon ar ran Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: "Rydyn ni'n parhau i gynghori pobl sy'n arddangos symtomau ac sydd wedi teithio i un o'r gwledydd sydd wedi cael eu heffeithio, i aros adref a ffonio'r meddyg teulu neu Linell y Gwasanaeth Iechyd ar 0845 46 47. "Ddylai pobl ddim mynd i Adrannau Brys nac i'w meddygfa teulu heb ffonio'n gyntaf, gan y gallai hyn gynyddu'r risg o ledu'r haint." Taflenni Mae taflenni gwybodaeth ddwyieithog wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru. Ym Mecsico mae cyfyngiadau wedi cael eu llacio am fod llai o achosion newydd. Mae o leiaf 65 o bobl wedi marw yno a dros 1,000 o bobl wedi diodde o'r haint yno dros yr wythnosau diwethaf. Hyd yn hyn mae achosion wedi'u cadarnhau mewn 34 o wledydd, gan gynnwys Mecsico, UDA, Canada, Israel, Seland Newydd, Sbaen, Yr Almaen, Awstria, Y Swistir, Portiwgal, Yr Eidal a'r Iseldiroedd. Yng Nghymru mae'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi dweud bod y llywodraeth yn cymryd camau pendant. "Gallwn sicrhau'r cyhoedd ein bod yn paratoi'n drylwyr ar gyfer y diwrnod y bydd y firws yn cyrraedd Cymru. "Mae 'na drefn gadarn mewn grym," ychwanegodd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud ei bod yn arfer da i sicrhau safonau uchel o ran glendid, er enghraifft: • Cuddio eich trwyn a'ch ceg wrth beswch neu disian, gan ddefnyddio hances os yn bosibl. • Taflu hancesi sydd wedi cael eu defnyddio yn syth, ac yn ddiogel. • Anelu at lendid sylfaenol da, er enghraifft golchi dwylo yn aml â sebon a dŵr i leihau'r perygl o ledu'r haint o'ch dwylo i'ch wyneb, neu i bobl eraill. • Glanhau arwynebau caled (e.e. dolenni drysau) yn aml, gan ddefnyddio cynnyrch glanhau arferol. • Helpu eich plant i ddilyn y cyngor hwn.
|