Gwobr arbennig i awdures am ei nofel Saesneg cyntaf
|
Mae awdures ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi ennill gwobr yng Ngŵyl y Gelli ar gyfer ysgrifenwyr newydd. Derbyniodd nofel Saesneg gyntaf Fflur Dafydd, Twenty Thousand Saint, ganmoliaeth arbennig ac adolygiadau ffafriol iawn. Mae cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli, Peter Florence, wedi disgrifio'r nofel fel un o'r nofelau gorau iddo ei darllen eleni. "Stori gariad llawn ias gyda dwyster at fyfyrdod yr iaith a hunaniaeth," meddai. Dywed bod Fflur Dafydd, 30 oed, yn cael ei gosod gyda Sarah Waters, Kate Atkinson a Zoe Heller sy'n cynrychioli cenhedlaeth newydd o ysgrifenwyr benywaidd ifanc sy'n "llwyddo ac yn blaguro". Dywedodd yr awdures, sydd ar fin priodi ym mis Awst, ei bod yn ddiolchgar iawn am y wobr. "Dwi'n amwys iawn am wobrau ond mae hyn yn wych. "Heb fod yn aflednais, mae'r nofel yn werth ei darllen. "Ond i eraill feddwl bod stori iasol wedi ei lleoli ar Ynys Enlli...mae'n wych." Medal ryddiaith Mae'r nofel, Twenty Thousand Saint, yn ffrwyth llafur cyfnod y cafodd Fflur Dafydd ar Ynys Enlli yn 2002. Dyma ei hail nofel i'w lleoli ar yr ynys. Fe wnaeth Atyniad ennill Medal Ryddiaeth Eisteddfod Genedlaethol 2006 yn Abertawe. Mae'r awdures, sy'n darlithio mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi bod yn cyhoeddi ers ei bod yn 20 oed. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, cyn ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia a PhD ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Mae hi hefyd yn gantores ac wedi rhyddhau dau gryno-ddisg. Cafodd y nofel ei chyhoeddi ym mis Hydref gan wasg Y Lolfa.
|