Mae deddfau i 1850au yn mynnu y dylai marchnad fod yn y dref
|
Mae ymgyrchwyr sy'n erbyn cau marchnad anifeiliaid hanesyddol yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i "wneud dim byd". Bwriad Cyngor Sir Fynwy ydi i ddymchwel y farchnad er mwyn creu parc siopau newydd. Ond mae Deddf Fictorianaidd yn nodi bod rhaid i'r Fenni gael marchnad anifeiliaid a fyddai'n cael ei symud o dan y cynlluniau presennol i Raglan. Cyn i waith ailddatblygu gael ei wneud mae'n golygu bod rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ymyrryd i ddiddymu'r ddeddf. Ond mae pobl yn Y Fenni yn pryderu y bydd y cynllun yn lleihau nifer yr ymwelwyr â'r dref ac yn ergyd i fasnach y siopau. 'Difetha bywyd' Dywedodd Jenny Long, cydlynydd ymgyrch Kalm i gadw'r farchnad anifeiliaid, wrth raglen BBC Cymru The Politics Show, y byddai hyn yn "difetha'r dref". "Fe fydd yn difetha bywyd nifer o siopwyr annibynnol. "Fe fydd yn cael effaith ar dwristiaid yn y dref ac yn yr ardal." Ond mae cyfarwyddwr Arwerthwyr Marchnad Y Fenni Cyf, Keith Spencer, yn honni bod nifer o ddefnyddwyr y farchnad 150 oed yn croesawu'r cynllun. "Dwi'n credu, er bod 'na rai sydd am gadw'r traddodiadau, mae'r mwyafrif yn gefnogol i ddatblygu marchnad fodern y tu allan i'r dref," meddai. Mae tua 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n galw, yn anarferol, ar Lywodraeth y Cynulliad i beidio ymyrryd. Gweinidog Amgylchedd y Llywodraeth, Jane Davidson, fydd yn gwneud y penderfyniad a ddylai'r hen ddeddf gael ei diddymu. Ond gall y penderfyniad hwnnw gael ei herio a'i drafod yn llawn gan y Cynulliad cyfan.
|