British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Mai 2009, 19:00 GMT 20:00 UK
Cam-drin: 'Methiannau systemig'

Cyngor Bro Morgannwg
Derbyniodd y teulu ymddiheuriad gan y Cyngor am yr hyn ddigwyddodd i'r plant.

Mae undeb wedi rhybuddio awdurdod lleol i beidio â chwilio am rywun arall i feio am osod dyn ifanc gyda theulu â phlant ifanc gafodd eu treisio ganddo.

Dywedodd undeb Unison fod "methiannau systemig" o fewn Cyngor Bro Morgannwg ar ôl i ddyn 19 oed dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ddau blentyn.

Ym mis Chwefror, plediodd y dyn ifanc yn euog i dreisio bachgen dwy oed ac ymosod yn rhywiol ar ferch naw oed, ac fe gafodd ddedfryd o gyfnod amhenodol yn y carchar.

Mae'r ymchwiliad, gafodd ei gynnal gan gymdeithas yr NSPCC a'i gyhoeddi ddydd Llun, wedi darganfod nad oedd y tîm gofal wedi trosglwyddo'r wybodaeth am gefndir y dyn, ac fe gafodd eu gweithredoedd eu disgrifio fel rhai naïf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y cyngor maes o law fod tri aelod allan o'r saith sydd yn gweithio yn y tîm wedi cael eu hatal o'r gwaith dros dro.

'Syfrdanol'

Ddydd Iau, galwodd Unison ar i'r ymchwiliad gael ei ymestyn i ymdrin â "methiannau systemig" oedd yn bodoli dros gyfnod o nifer o flynyddoedd o fewn gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.

Dywedodd rheolwraig ranbarthol yr undeb, Dawn Bowden: "Mae hwn yn achos syfrdanol o gamdrin.

"Tynnodd Unison sylw'r cyngor dros gyfnod o nifer o flynyddoedd at fethiannau systemig ac absenoldeb cyfarwyddyd Pennaeth Gwasanaethau, gan gynnwys, yn fwy diweddar, ofidion penodol wrth ymdrin â'r achos hwn, ond cafodd y rhybuddion hyn eu hanwybyddu.

"Mae'r adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun yr wythnos hon yn golygu bod y materion hynny heb eu hateb o hyd.

"Dyw hi ddim yn ddigon da i edrych ar y tri mis diwetha yn unig cyn y digwyddiadau ofnadwy, ac rydyn ni eisiau i'r Bwrdd Diogelu Plant Lleol i archwilio holl hanes yr achos."

Ddydd Llun, derbyniodd y teulu ymddiheuriad gan y Cyngor am yr hyn ddigwyddodd i'r plant.



HEFYD
Cam-drin plant: Beirniadu cyngor
18 Mai 09 |  Newyddion
Cam-drin plant: Rhybudd tad
17 Maw 09 |  Newyddion
Cam-drin: Cyfaddefiad gan y cyngor
05 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific