British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Mai 2009, 06:01 GMT 07:01 UK
Patagonia: Arwyddo siarter

Esquel
Mae tref Esquel yn cynnal Eisteddfod bob blwyddyn

Mae tref ym Mhatagonia ble ymfudodd disgynyddion teuluoedd o Gymru fwy na chanrif yn ôl wedi ei hefeillio ag Aberystwyth.

Bu criw o Aberystwyth yn ymweld â thref Esquel er mwyn arwyddo siarter.

Ym mis Chwefror fe agorodd Llysgennad Ariannin ym Mhrydain, Shan Morgan, Sgwâr Aberystwyth yn y dref.

Mae Esquel 1,200 o filltiroedd i'r de o brifddinas y wlad Buenos Aires.

Bu Maer Aberystwyth, Sue Jones-Davies, a nifer o aelodau'r gymdeithas efeillio ar y daith i Ariannin.

Ymfudwyr

Fe aeth yr ymfudwyr cyntaf i Ariannin yn 1865 ar ôl teithio 8,000 milltir yn y gobaith o greu bywyd gwell.

Yn ddiweddarach, fe symudodd disgynyddion yr ymfudwyr gwreiddiol i ardal Esquel.

Fe aeth yr ymfudwyr cynnar o Gymru i dir ffrwythlon Esquel ar ôl cyfnod o geisio ffermio ar dir sych.

Ar hyn o bryd mae'r Gymraeg i'w chlywed o hyd ar strydoedd y dref er mai Sbaeneg yw iaith y mwyafrif.

Bob blwyddyn mae'r trigolion yn cynnal Eisteddfod ac mae yna nifer o gorau yn y dref.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Patagonia: Dwylo dros y mr
01 Awst 07 |  Newyddion
Pecynnau addysg i Batagonia
28 Gorff 07 |  Newyddion
Iolo i arwain taith i Batagonia
06 Mai 07 |  Newyddion
Hanes glaniad Patagonia ar y we
19 Maw 07 |  Newyddion
Ymgyrch i agor ysgol Patagonia
17 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific