Dylai rhieni sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechu
|
Dywedodd arbenigwyr iechyd cyhoeddus fod y gyfres o achosion y frech goch yn y canolbarth a'r gorllewin yn "frawychus". Mae nifer yr achosion bedair gwaith yn fwy na'r ffigwr uchaf gafodd ei gofnodi dros y 13 blynedd diwethaf. Yn ôl ffigyrau swyddogol, roedd 127 o achosion o'r frech goch yn y gorllewin a'r canolbarth ers ychydig o wythnosau. Mae pedwar o blant gafodd driniaeth ysbyty ar ôl dal y frech goch wedi cael eu hanfon adref. Roedd y plant o dan ddwy oed yn mynd i feithrinfa Hapus Dyrfa ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin. Mae 32 o blant eraill y feithrinfa wedi eu brechu. Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai rhieni sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechu. Cafodd sesiwn arbennig i frechu 32 o bobl oedd wedi dod i gysylltiad â'r pedwar plentyn ei chynnal nos Wener. Achosion Mae'r achosion diweddara yn golygu bod 'na 69 o achosion yn y gorllewin a'r canolbarth, 14 achos yn ne Sir Benfro, 46 achos yn Llanelli, pedwar ym Mhorth Tywyn a phump yng Nghastell-nedd Port Talbot.
 |
Mae yna dystiolaeth gref y gallai un o bob 500 o blant sy'n dal y frech goch farw
|
Mae'r achosion ar draws ystod eang, o blant mor ifanc â phum mis oed i oedolion yn eu pedwardegau hwyr. "Cyhyd ag y mae yna blant sydd ddim yn derbyn brechiad MMR, mae yna botensial am achosion o'r frech goch ac fe hoffwn atgoffa unrhyw un sy'n byw yng Nghymru o hyn, nid yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio'n unig," meddai Dr Mac Walapu, Ymgynghorydd Rheoli Afiechydon Heintus Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd. Meddyg teulu "Does dim tystiolaeth o unrhyw blentyn yn cael ei niweidio gan frechiad MMR. "Ond mae yna dystiolaeth gref y gallai un o bob 500 o blant sy'n dal y frech goch farw, ac un o bob 500 o blant ddioddef niwed hir dymor i'r ymennydd." Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd ei fod yn poeni am fod cymaint o achosion yr un pryd. Mewn rhai ysgolion, meddai, dim ond 14.8% o'r disgyblion oedd wedi cael brechiad MMR. "Os yw plentyn yn sâl a rhiant yn amau'r frech goch, dylai gysylltu â'r meddyg teulu," ychwanegodd. Dywedodd na ddylai plentyn fynd i'r ysgol na'r feithrinfa am bum niwrnod ar ôl i'r smotiau ymddangos.
|