British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 16 Mai 2009, 08:54 GMT 09:54 UK
Arian Google at wefan Gymraeg

Cynllun Aperitum.org
Dechreuodd cynllun Apertium dair blynedd yn l yng Nghatalunya

Mae criw o wirfoddolwyr sy'n creu gwefan i gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg wedi cael hwb ariannol gan gewri Google.

Dechreuwyd cynllun Apertium dros dair blynedd yn ôl yng Nghatalunya gan Mikel Forcada i greu gwefannau côd agored i gyfieithu nifer o ieithoedd lleiafrifol.

Eisoes mae'r safle yn medru cyfieithu o ieithoedd megis Catalaneg, Llydaweg, Occitan a Sami (un o ieithoedd y Ffindir).

Mae'r cynllun yn cynnwys gwefan Cymraeg.org.uk, un o nifer sydd wedi derbyn arian gan y cewri cyfrifiadurol Google i ddatblygu gwefannau côd agored - sef gwefannau sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

Cefnogaeth

Dr Kevin Donnelly o Lanfairpwll ar Ynys Môn, yw un sy'n gweithio ar y wefan gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg.

"Bob blwyddyn mae Google yn ariannu myfyrwyr am dri mis i weithio ar brosiectau côd agored. Y tro yma rydym wedi gwneud cais ac mae'n gynllun wedi cael ei gefnogi," meddai.

"Mae ganddom ni eiriadur, ac wedyn 'da ni'n 'sgrifennu rheolau gramadegol, ac yn gobeithio cael syniad o'r gystrawen yn y Gymraeg."

Trwydded

Dr Kevin Donnelly
Dyw'r rhestrau ddim ar gael ar drwydded sy'n gadael i ni eu defnyddio ar rhywbeth fel hyn. Dwi'n meddwl fod hynny'n ddrwg i'r Gymraeg yn y tymor hir
Kevin Donnelly

Ond mae'r gwaith o baratoi'r wefan yn wynebu ambell broblem.

Ychwanegodd Kevin Donnelly: "I wneud hyn yn iawn rhaid i ni gael geiriau. Ar hyn o bryd mae'r holl restrau fel 'Termiadur' a rhestrau Bwrdd Yr Iaith ac ati - dydyn nhw ddim ar gael dan drwydded sy'n gadael i ni eu defnyddio mewn rhywbeth fel hyn. Dwi'n meddwl fod hynny'n ddrwg i'r Gymraeg yn y tymor hir."

Pwysleisiodd hefyd nad yw'r wefan wedi ei bwriadu ar gyfer gwneud cyfieithiadau o ddogfennau swyddogol ac ati, ac mai rhywbeth i gynorthwyo pobl Ddi-Gymraeg gael rhyw ddealltwriaeth o ddeunydd Cymraeg ar wefannau neu lyfrau fydd Apertium Cymraeg.

Croeso amodol

Geraint Parry
Geraint Parry yw Prif Weithredwr Cymdeithas Y Cyfieithwyr

Wrth ystyried hynny, roedd cyfieithwyr proffesiynol yn croesawu'r datblygiad, ond roedd ganddyn nhw rybudd hefyd.

Dywedodd Geraint Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru:

"Mae o i'w groesawu os ydi o'n cael ei ddefnyddio gan gyfieithwyr proffesiynol wrth eu gwaith, ac mae'n mynd i hwyluso'r gwaith iddyn nhw.

"Ond wrth gwrs yn y dwylo anghywir mae unrhyw feddalwedd fel hyn yn gallu bod yn beryg bywyd - mae'n mynd i arwain at gamgymeriadau ac at gyfieithiadau sydd yn wallus dros ben."

Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd Yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r Bwrdd yn croesawu'r datblygiad hwn yn fawr. Bydd meddalwedd o'r fath yn helpu cyfieithwyr i gyfieithu mwy o waith ac felly'n sicrhau bod mwy o Gymraeg i'w gweld ar lawr gwlad.

"Dyma'r datblygiad diweddaraf ym maes technoleg iaith yn y Gymraeg. Byddwn yn annog pawb sy'n defnyddio cyfrifiadur i fanteisio ar bob cyfle i'w defnyddio yn Gymraeg, ac i ysgrifennu yn Gymraeg."

Ddim yn berffaith

Dywedodd Dr Kevin Donnelly nad oedd y wefan wedi'i chynllunio ar gyfer defnydd swyddogol.

"Dyw'r cyfieithiad ddim yn berffaith - fydd o ddim yn cymryd drosodd gan gyfieithwyr dynol," meddai.

"Ond mae'n ddigon i roi rhyw syniad o'r ystyr cyffredinol i bwy bynnag sy'n ei ddefnyddio fo."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cyfieithiad 'sl' - seiclwyr sl?
15 Awst 06 |  Newyddion
Cymraeg gwael: Apl yn llwyddo
06 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific