Y gorchymyn: Un o elfennau allweddol cytundeb Cymru'n Un
|
Bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali tu allan i adeilad y Senedd brynhawn ddydd Sadwrn. Roedden nhw'n dadlau nad ydi'r Gorchymyn Iaith yn mynd yn ddigon pell a bod angen trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i Gymru. Nod Llywodraeth y Cynulliad yn y pen draw yw creu mesur i'r iaith Gymraeg fyddai'n "cadarnhau statws cyfartal" i ieithoedd Cymraeg a Saesneg, a sicrhau hawliau ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau a sefydlu Comisiynydd Iaith. Yn y Cynulliad a San Steffan ar hyn o bryd, mae'r posibilrwydd o drosglwyddo'r hawl i ddeddfu am yr iaith Gymraeg o Lundain i Gaerdydd yn cael ei drafod. Fe ddywedodd Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith cyn y rali: ''Ni fydd y Gorchymyn iaith, fel y mae yn awr, yn gwneud gwahaniaeth digonol i fywyd pobl Cymru o ddydd i ddydd, mae angen trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg yma i Gymru. "Rydyn ni'n falch iawn fod rhai o wynebau amlwg Cymru wedi datgan cefnogaeth i'n galwadau drwy siarad yn y rali neu drwy roi'u henwau ar hysbyseb ar gyfer y rali.'' 'Moesol a chyfiawn' Dywedodd Hywel Teifi Edwards, sy'n mynnu ei fod am ymddeol o'r gwaith o annerch ralïau ar ôl dydd Sadwrn: "Ni'r Cymry sydd wedi creu problem yr iaith, a ni'r Cymry yn ein Senedd sy'n mynd i ffeindio'r ateb teg i'r broblem honno." Dywedodd siaradwraig arall, y ddarlledwraig Angharad Mair: "Rwy'n galw ar bobl fel fi sydd wedi bod yn ddigon breintiedig a lwcus i fwynhau gyrfa lewyrchus yn yr iaith Gymraeg - diolch i ymgyrchu dewr a diflino pobl eraill - i ddangos cefnogaeth i'r frwydr yma i sicrhau dyfodol yr iaith. "Mae angen i ni gyd ddatgan yn glir wrth yr aelodau seneddol sydd wedi eu hethol i'n cynrychioli ni ein bod ni'n mynnu mai'r unig le moesol a chyfiawn i wneud penderfyniadau am yr iaith Gymraeg yw yma yng Nghymru, ac mae angen deddf flaengar newydd ar frys i sicrhau sefyllfa gyfartal i'r iaith er mwyn ei diogelu ar gyfer y dyfodol." Bu Adam Price o Blaid Cymru, Jake Griffiths, Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, a'r nofelydd Catrin Dafydd hefyd yn siarad yn y rali. "Hanesyddol" Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Mae'r Gorchymyn Arfaethedig hyn yn gam pwysig a hanesyddol. "Byddai'r Gorchymyn arfaethedig yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol cadarn i hybu a hyrwyddo'r Gymraeg, gan drosglwyddo'r grym i ddeddfu yn y maes i'r Cynulliad. "Y Cynulliad yw'r lle priodol i ddeddfu dros y Gymraeg," meddai. "Byddai'n caniatáu i'r Cynulliad i ddeddfu i gyflawni ymrwymiadau a gynhwysir yn nogfen Cymru'n Un - cynyddu hawliau i siaradwyr Cymraeg, sefydlu comisiynydd iaith a rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg. Byddai'r Gorchymyn yn hwb i warchod ac atgyfnerthu'r iaith." Y gorchymyn iaith oedd un o elfennau allweddol cytundeb Cymru'n Un, cytundeb y llywodraeth glymblaid.
|