Fe fydd Golwg a Golwg Newydd yn cyflogi naw o staff newydd
|
Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, wnaeth lansio gwefan newyddion a materion cyfoes annibynnol newydd yn Llandudno ddydd Gwener. Fe fydd Golwg360 yn cynnwys gwasanaeth newyddion ar y pryd ac yn rhoi'r cyfle i fusnesau a chyrff cyhoeddus a chymunedol gael eu tudalennau eu hunain ar y safle. Golwg Newydd fydd yn rhedeg y gwasanaeth, chwaer gwmni i'r cylchgrawn wythnosol Golwg. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r cynllun drwy roi grant blynyddol o £200,000 i Golwg Newydd. Cafodd yr arian ei glustnodi er mwyn datblygu'r wasg Gymraeg. Bydd rhagor o wasanaethau'n cael eu hychwanegu yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr y gwasanaeth i'r wefan. Cafodd rhai pobol anhawster technegol wrth geisio defnyddio'r gwasanaeth newydd. Brynhawn Gwener, roedd neges ar y wefan yn dweud: "Mae'n ddrwg iawn gynnon ni am hynny ac rydym wrthi'n ceisio datrys y broblem. "Diolch am fod yn amyneddgar. Ryden ni'n gwneud ein gorau!" 'Cryfhau'r wasg Gymraeg' I gyd-fynd â lansiad y gwasanaeth ar-lein, mae'r cylchgrawn traddodiadol yn ymddangos ar ei newydd-wedd, gyda rhagor o dudalennau a mathau newydd o straeon a cholofnau yn cael eu cyhoeddi. Mae naw o swyddi newydd wedi cael eu creu, gan gynnwys pedwar newyddiadurwr rhwng Golwg a Golwg Newydd. Dywedodd Mr Jones ei fod yn falch o gael lansio'r gwasanaeth ac yn dymuno pob llwyddiant i'r fenter wrth i'r gwasanaeth ddatblygu dros y misoedd nesaf.
Fe fydd y cylchgrawn Golwg ar ei newydd-wedd hefyd
|
"Yn sicr, mae yn ddiwrnod cyffrous iawn ym myd newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg. "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gefnogol i gryfhau'r ddarpariaeth o ran newyddiaduraeth trwy'r Gymraeg; mae'r fenter yma yn fuddsoddiad pwysig i'r dyfodol." Dywedodd Cadeirydd Golwg Newydd, Gwynfryn Evans, bod hwn yn "ddatblygiad pwysig i Golwg". "Ond hefyd i'r wasg Gymraeg a gobeithio i'r iaith Gymraeg ei hun. "Ar adeg o gyni, mae'n wych gweld gwasanaeth newydd hanesyddol yn cael ei greu." 'Gwasanaeth i Gymru gyfan' Ychwanegodd Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, y bydd y wefan yn cynnwys pob math o newyddion a gwybodaeth. "Yn y pen draw, mi fydd cyfle i bawb gyfrannu a chyhoeddi eu tudalennau eu hunain." Mae Golwg360 yn pwysleisio y bydd y gwasanaeth ar gael i bawb yng Nghymru a thu hwnt. Dywedodd Prif Weithredwr Golwg360, Ioan Wyn Evans, bod hwn yn wasanaeth i Gymru gyfan ac i siaradwyr Cymraeg ar draws y byd. "Dyna un rheswm dros lansio yn Llandudno yn hytrach nag yn ein swyddfeydd yn Llambed neu Gaernarfon - does dim gwahaniaeth lle'r ydech chi, mae Golwg360 ar gael." Yn bresennol yn y lansiad roedd disgyblion ysgol sydd wedi cael y cyfle i ddylunio eu tudalennau eu hunain a chwmni Tinopolis sydd wedi cefnogi ochr dechnegol y prosiect.
|