British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Mai 2009, 12:06 GMT 13:06 UK
Gwerthu adar prin: Arestio

Eryr Aur
Mae'r heddlu yn cynnal profion ar eryr aur gafodd ei ddarganfod yn farw

Mae dyn wedi cael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth ar amheuaeth o werthu adar gwyllt prin.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn cynnal profion ar eryr aur gafodd ei ddarganfod yn farw.

Cafodd y dyn o'r Rhondda ei arestio ar Fai 7 o dan y ddeddf rheoli masnach mewn anifeiliaid dan fygythiad 1997, fel rhan o ymgyrch i erlyn pobl sy'n gwerthu anifeiliaid gwyllt yn enwedig adar prin drwy Ewrop a Phrydain.

Mae Heddlu De Cymru yn un o bedwar sefydliad sy'n cynnwys Heddlu Ffederal Gwlad Belg, Uned Genedlaethol Troseddau Anifeiliaid Gwyllt a'r Sefydliad Iechyd Anifeiliaid sy'n ymchwilio i droseddau yn ymwneud ag anifeiliaid gwyllt.

Cafodd dau ddyn ei arestio yng Ngwlad Belg yn ddiweddar fel rhan o'r ymchwiliad.

Mae'r adar yn cynnwys eryrod, gweilch, cudyll a rhywogaethau eraill o adar ysglyfaethus sy'n cael eu gwerthu gyda thystysgrifau ffug am swm sylweddol o arian.

Cafodd tri thŷ ei thargedu yn ardal y Gelli yn y Rhondda ar Fai 7.

Mae dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.

Cafodd 137 o adar eu harchwilio yn y tri lleoliad.

Mae samplau gwaed a phlu 50 o adar wedi cael eu gyrru am brofion DNA er mwyn darganfod a oedd yr adar yn cael eu cadw a'u gwerthu yn anghyfreithlon.

'Amddiffyn adar prin'

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn nodi ei bod yn anghyfreithlon achosi niwed neu ladd eryrod aur neu eu nythod, wyau a chywion.

Dywedodd Sarsiant Ian guilford o Heddlu De Cymru: "Ein blaenoriaeth yw rhoi cymorth i heddlu Belg yn eu hymchwiliad i'r farchnad bywyd gwyllt lle mae adar yn cael eu gwerthu'n anghyfreithlon mewn nifer o wledydd.

"Roedd ymchwiliad heddlu De Cymru yn y Rhondda yn rhan o fesurau ehangach i leihau bygythiad i rai o adar mwyaf prin yn Ewrop."



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific