Dyma'r tro cyntaf i strategaeth genedlaethol o'r fath gael ei chyhoeddi
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynlluniau "uchelgeisiol" i ddatblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd y strategaeth newydd ei lansio yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ger Hirwaun fore Mercher. Yn ôl y llywodraeth, mae'r ddarpariaeth bresennol yn "dameidiog ac anghyson" ac fe fydd y strategaeth yn gosod dyletswydd ar gynghorau a darparwyr addysg eraill i sicrhau "cyfundrefn gyflawn ac effeithlon". Disgwylir i gynghorau sy'n cynnig addysg Gymraeg a Saesneg ar wahân ymchwilio'n fanwl i'r galw am addysg Gymraeg ymhlith rhieni plant sydd newydd eu geni. Fe fydd y cynghorau'n gorfod cynllunio'n fanwl ar sail y wybodaeth honno i sicrhau dilyniant addysg Gymraeg o'r sector meithrin ymlaen.
 |
Targedau'r strategaeth
25% o blant saith oed i gael addysg Gymraeg
Nifer o blant sy'n sefyll arholiadau TGAU drwy'r Gymraeg yn codi i 13%
Cynnydd mewn staff ac athrawon cymwys i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Gwella darpariaeth Gymraeg mewn colegau
|
Targedau iaith Mae'r strategaeth yn gosod cyfres o dargedau. Disgwylir i 25% o blant saith oed dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015 o'i gymharu â 21% yn 2008 gyda'r nifer sy'n sefyll arholiadau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg yn codi o 10% i 13%. Mae'r strategaeth yn cynnwys nifer o gynlluniau i godi'r nifer o athrawon a staff eraill sy'n gymwys i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, i wella'r ddarpariaeth Gymraeg mewn colegau, yn enwedig wrth ddysgu sgiliau a chrefftau galwedigaethol. 'Sgiliau iaith' Dywedodd y Gweinidog Addysg Jane Hutt AC: "Rydym am sicrhau bod ein system addysg yn ei gwneud yn bosib i ragor o ddysgwyr o bob oedran ennill amrywiaeth ehangach o sgiliau iaith yn y Gymraeg. "Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau personol, wrth gymdeithasu ac yn y gwaith.
"Rwyf am sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael ym mhob rhan o Gymru i'r rhai sy'n dewis hynny ar gyfer eu plant, a bod y ddarpariaeth yn parhau trwy bob cyfnod addysgol o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch ac yn y gweithle." Dywedodd eu bod eisiau darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ar ôl 16 i 18 oed. Roedd y gweinidog yn cydnabod na all hyfforddiant ac addysg yn eu hunain sicrhau bod siaradwyr yn dod yn rhugl yn y Gymraeg gan fod nifer o ffactorau'n dylanwadu ar agweddau ac ymddygiad. "Mae dysgu anffurfiol yn hollbwysig ar gyfer atgyfnerthu'r sgiliau iaith Gymraeg sy'n cael eu dysgu yn ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth. 'Tu allan i'r ysgol' "Bydd llawer o'r cyfleoedd hyn y tu allan i'r ysgol neu goleg." Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, fod y strategaeth yn ategu'r addewidion wnaeth Llywodraeth y Cynulliad yn Iaith Pawb i hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o'r iaith a rhoi'r cyfle i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd. "Er mwyn ein helpu ni i gyflawni'r nod hwnnw, mae'n bwysig datblygu a gwella'r cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg."
|