John Davies arweinydd Cyngor Penfro yn cael ei holi gan Aled Scourfield am bwysigrwydd safle South Hook.
Mae'r Frenhines, Dug Caeredin a Dug Efrog yn ogystal ag aelodau o deulu brenhinol Qatar wedi agor safle LNG yn Aberdaugleddau yn swyddogol fore Mawrth.
Mae'r safle yn South Hook yn fenter ar y cyd rhwng Qatar Petroleum, Exxon Mobil a Total.
Cafodd y nwy hylifol (LNG) cyntaf ei gludo i'r safle o'r Dwyrain Canol ym mis Mawrth.
Hwn yw'r tro cyntaf i Qatar gyflenwi nwy i'r rhwydwaith ym Mhrydain.
Y derfynell yn South Hook yw'r fwyaf o'i bath yn Ewrop.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones a gweinidog llywodraeth Prydain Ed Milliband yn Aberdaugleddau ar gyfer yr agoriad swyddogol.
Roedd aelodau teulu brenhinol Qatar, Sheikh Hamad bin Khalifa Al-Thani, Ei Mawrhydi Sheikha Mozah Bint Nasser Al-Missned, a'i Mawrhydi Sheikha Hind Bint Hamad Al-Thani hefyd yn bresennol yn ystod y seremoni.
Cawson nhw'r cyfle i weld arddangosfa a chwrdd â thrigolion a gweithwyr yr ardal.
Mae'r Frenhines wedi ymweld â safle LNG yn Aberdaugleddau ddydd Mawrth
Cyrhaeddodd y Frenhines am 11.15am gyda Dug Caeredin a Dug Efrog ar gyfer y seremoni, gafodd ei chynnal mewn pabell.
Yno'n perfformio roedd y soprano Gwawr Edwards a Chôr Orffews Treforys.
Cafodd y gwesteion ginio mawreddog, gan gynnwys pysgod o Sir Benfro a chig Cymreig wedi ei baratoi gan y cogydd lleol, Graham Tinsley.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan bod y safle'n cynnig "ffenest siop" i Gymru.
Ond mae pobl leol wedi bod yn cwyno am y nwy sy'n cael ei ryddhau o'r safle, yn ogystal â'r sŵn.
'Carreg filltir'
Bydd llongau LNG yn cludo'r nwy drwy gwlff Arabia, y Môr Coch a chamlas Suez ac yna i Aberdaugleddau.
Bydd y tanceri yn cludo nwy sydd wedi ei droi'n hylif ar ôl cael ei rewi i -160°.
Ar ôl cyrraedd Aberdaugleddau bydd yr hylif yn cael ei bwmpio i storfeydd ar y lan a'i droi'n ôl i nwy naturiol.
Yn y pen draw, fe fydd gan y safle yn Aberdaugleddau y gallu i gwrdd ag hyd at 20% o anghenion nwy Prydain.
Dywedodd Prif Weithredwr Centrica, Sam Laidlaw: "Y DU erbyn hyn sydd â'r farchnad fewnforio nwy gyflymaf i dyfu, ac mae ganddi gyswllt uniongyrchol â gwlad Qatar, allforiwr LNG mwyaf y byd.
"Fe fydd y garreg filltir arwyddocaol hon, wrth ddod â gwledydd sy'n cyflenwi ac yn prynu ynghyd, yn hwb enfawr i ddiogelwch ynni'r DU."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.