British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Mai 2009, 05:47 GMT 06:47 UK
Addysg Gymraeg: Dyblu gwariant

Ysgol
Dywed y sir eu bod yn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg

Mae cyngor sir yn argymell dyblu'r gwariant ar ddatblygu ysgol gynradd oherwydd y galw cynyddol am addysg Gymraeg.

Yn wreiddiol, roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu gwario £4.5 miliwn ar godi ysgol newydd yn Ffwrnais ger Llanelli.

Y bwriad erbyn hyn yw gwario £8 miliwn ar wella cyfleusterau a datblygu'r adeilad.

Dywed swyddogion addysg eu bod yn ymateb i arolwg sy'n sôn am "gynnydd mawr" yn y galw am addysg Gymraeg yn ardal Llanelli.

"Fel rhan o'n strategaeth i gwrdd â'r galw, mae'r awdurdod yn credu fod gan Ysgol Ffwrnais ran allweddol fel safle sy'n darparu addysg Gymraeg," meddai Llew Thomas, rheolwr buddsoddi a datblygu ysgolion y sir.

Bydd yr ysgol yn cynnwys meithrinfa ac fe fydd yna ddau ddosbarth ar gyfer pob blwyddyn addysgol.

Ar hyn o bryd un dosbarth sy ar gyfer pob blwyddyn.

Ystafelloedd dosbarth

Y llynedd roedd rhai o rieni'r ardal wedi ei chael hi'n anodd wrth geisio sicrhau llefydd i'w plant mewn ysgolion Cymraeg.

Does yna ddim llefydd gwag yn Ysgol Dewi Sant (437 o ddisgyblion) ac Ysgol Ffwrnais (166 o ddisgyblion).

Eisoes mae yna stafelloedd dosbarth dros dro wedi eu gosod yn yr ysgolion.

Dywed y cyngor y bydd y gwaith o godi ysgol newydd yn dechrau'r flwyddyn nesa.

Bydd yna ddau ddosbarth dros dro yn cael eu gosod yno yn y cyfamser.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific